{"id":414,"date":"2014-12-01T10:56:04","date_gmt":"2014-12-01T10:56:04","guid":{"rendered":"http:\/\/oilcare.org.uk\/dealing-with-oil-spills-2\/"},"modified":"2020-11-25T09:45:11","modified_gmt":"2020-11-25T09:45:11","slug":"delio-ag-olew-sydd-wedi-cael-ei-golli","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/delio-ag-olew-sydd-wedi-cael-ei-golli\/","title":{"rendered":"Delio ag olew sydd wedi cael ei golli"},"content":{"rendered":"<h1>Delio ag olew sydd wedi cael ei golli<\/h1>\n<h2>Paratoi i ddelio ag olew sydd wedi cael ei golli<\/h2>\n<p>Os ydych yn gyfrifol am storio unrhyw olew dylech fod yn barod ar gyfer damwain, olew yn cael ei golli neu&#8217;n gollwng. Mae angen i chi wybod beth i&#8217;w wneud.<\/p>\n<p>Bydd bod yn barod yn lleihau&#8217;r posibilrwydd o ddigwyddiad a allai achosi llygredd a difrodi eich eiddo. Cadwch becyn colli olew gyda deunyddiau amsugno (cynhyrchion a fydd yn amsugno olew ond nid d\u0175r) a phyti selio twll wrth ymyl eich man storio olew fel y gallwch gael gafael arno&#8217;n gyflym os bydd angen. Gall pecynnau colli olew masnachol a diwydiannol gynnwys eitemau ychwanegol, er enghraifft blocwyr draeniau, a llawer iawn o ddeunydd amsugno.<\/p>\n<h2>Delio ag olew sydd wedi cael ei golli<\/h2>\n<p>Os bydd olew wedi gollwng, neu wedi cael ei golli, bydd angen i chi ddelio \u00e2 hynny ar unwaith. Os na wnewch hynny, gallech achosi digwyddiad difrifol o ran llygredd a gall camau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn.<\/p>\n<p>Cymerwch gamau gweithredu:<\/p>\n<ul>\n<li>Os gallwch atal llif yr olew, gwnewch hynny. Os oes lle, ac os na chewch olew ar eich croen, rhowch fwced o dan yr olew sy&#8217;n gollwng a chaewch y falfiau neu&#8217;r tapiau.<\/li>\n<li>Defnyddiwch gynnwys eich pecyn colli olew, bagiau tywod neu bridd i amsugno&#8217;r olew os yw ar arwyneb caled a&#8217;i atal rhag mynd i mewn i afon, nant, cwrs d\u0175r a draeniau neu ymdreiddio i&#8217;r tir.<\/li>\n<li>Peidiwch byth \u00e2 golchi unrhyw olew a gollwyd i mewn i ddraeniau, cwteri neu i mewn i&#8217;r tir. Mae&#8217;r rhan fwyaf o ddraeniau yn cysylltu \u00e2&#8217;r cwrs d\u0175r agosaf a gall olew achosi llygredd difrifol mewn afonydd, nentydd a d\u0175r daear.<\/li>\n<li>Peidiwch byth \u00e2 defnyddio glanedyddion i lanhau olew a gollwyd; gallech achosi digwyddiad gwaeth o ran llygredd. Mae&#8217;r glanedydd ei hun yn llygrydd ac yn cymysu olew yn y d\u0175r.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os bydd angen help arnoch:<\/p>\n<p>Peidiwch byth \u00e2 rhoi eich hun mewn perygl er mwyn glanhau olew a gollwyd. Os na allwch lanhau&#8217;r olew a gollwyd eich hun neu os hoffech gael cyngor ar olew a gollwyd, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau\/llygredd genedlaethol <strong>0800 80 70 60<\/strong>, mae&#8217;r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir t\u00e2l arnoch os ydych yn defnyddio ff\u00f4n symudol.<\/p>\n<p>Efallai y byddwch mewn lleoliad sy&#8217;n ystyriol o&#8217;r amgylchedd lle mae angen ymateb yn gyflym iawn i atal yr amgylchedd lleol a chyflenwadau d\u0175r yfed d\u0175r daear cyfagos rhag cael eu llygru&#8217;n ddifrifol.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2&#8217;ch cyflenwr tanwydd am gyngor (efallai y bydd yn cynnig gwasanaeth glanhau neu&#8217;n gallu argymell ba gamau gweithredu i&#8217;w cymryd).<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2&#8217;ch cwmni yswiriant a dywedwch wrthynt fod eich tanc neu bibellau wedi gollwng olew neu wedi colli olew, y gall fod angen i gwmni proffesiynol ddod i&#8217;w lanhau ac i adennill cost yr olew a gollwyd gennych.<\/p>\n<h2>Diogelu eich hun a&#8217;ch eiddo<\/h2>\n<p>Os bydd olew a gollwyd wedi mynd i mewn i afon, nant neu ddraeniau neu os na wyddoch ble y mae wedi mynd, yna mae&#8217;n debygol y bydd angen help arnoch i&#8217;w lanhau.<\/p>\n<p>Os bydd yr olew wedi ymdreiddio i&#8217;r pridd\/tir, bydd angen i chi gymryd camau cyflym i&#8217;w atal rhag ymdreiddio ymhellach i&#8217;r tir a chyrraedd sylfeini adeiladau neu gyflenwadau d\u0175r daear. Bydd angen cwmni proffesiynol arnoch sydd wedi cael hyfforddiant ac achrediad i lanhau olew sydd wedi ymreiddio i&#8217;r tir. Gall codi pridd a halogwyd ag olew a&#8217;i waredu fod yn gostus iawn; rydym yn argymell eich bod yn cysylltu \u00e2&#8217;ch cwmni yswiriant cyn gynted \u00e2 phosibl.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2 mentro gadael olew sydd wedi cael ei golli; gall ddifrodi sylfeini adeilad a lladd planhigion a bywyd gwyllt.<\/p>\n<h2><strong>Tanciau sy&#8217;n gollwng<\/strong><\/h2>\n<p>Os dewch o hyd i olew yn gollwng o&#8217;ch tanc ceisiwch roi cynhwysydd o dan yr olew sy&#8217;n gollwng er mwyn atal rhagor o olew rhag gollwng. Defnyddiwch byti selio twll o&#8217;ch pecyn colli olew a&#8217;i roi dros y man sy&#8217;n gollwng, a gwisgwch fenig rwber neu finyl i ddiogelu eich croen.<\/p>\n<p>Ar gyfer tanciau plastig efallai y byddwch yn gallu atal yr olew rhag gollwng dros dro drwy rwbio bar o sebon ar draws y man sy&#8217;n gollwng &#8211; gwnewch yn si\u0175r eich bod yn diogelu eich hun drwy wisgo menig rwber neu finyl.<\/p>\n<p>Ffoniwch am help; dim ond ateb byrdymor i olew sy&#8217;n gollwng yw pyti neu sebon. Efallai y bydd angen gwagio eich tanc er mwyn atal eich olew rhag achosi llygredd. Efallai y gall eich cwmni cyflenwi tanwydd neu ddarparwr yswiriant helpu.<\/p>\n<h2>Rhoi gwybod am olew a gollwyd<\/h2>\n<p>Ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau <strong>0800 80 70 60<\/strong> (gwasanaeth 24 awr), am ddim, o linellau tir ond efallai y codir ffi os defnyddir ff\u00f4n symudol.<\/p>\n<p>Gallwch ddefnyddio\u2019r rhif hwn i roi gwybod am olew sydd wedi cael ei golli, neu ddigwyddiad amgylcheddol arall, ledled y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Yng <strong>Nghymru<\/strong> ffoniwch <strong>0300 065 3000<\/strong> (gwasanaeth 24 awr).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Delio ag olew sydd wedi cael ei golli Paratoi i ddelio ag olew sydd wedi cael ei golli Os ydych yn gyfrifol am storio unrhyw olew dylech fod yn barod ar gyfer damwain, olew yn cael ei golli neu&#8217;n gollwng. Mae angen i chi wybod beth i&#8217;w wneud. Bydd bod yn barod yn lleihau&#8217;r posibilrwydd o ddigwyddiad a allai achosi llygredd a difrodi eich eiddo. Cadwch becyn colli olew gyda deunyddiau amsugno (cynhyrchion a fydd &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-414","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/414","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=414"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/414\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2325,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/414\/revisions\/2325"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=414"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}