{"id":494,"date":"2015-05-19T10:29:21","date_gmt":"2015-05-19T10:29:21","guid":{"rendered":"http:\/\/oilcare.org.uk\/?page_id=494"},"modified":"2020-10-28T14:53:58","modified_gmt":"2020-10-28T14:53:58","slug":"introducing-oil-care","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/introducing-oil-care\/","title":{"rendered":"Cyflwyno Gofalu am Olew"},"content":{"rendered":"<h1>Cyflwyno Gofalu am Olew<\/h1>\n<h2><strong>Pwy ydym ni: Ymgyrch Gofalu am Olew<\/strong><\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Ymgyrch Gofalu am Olew (OCC) yn fenter ar y cyd rhwng rheoleiddwyr amgylcheddol, cyrff masnach a phroffesiynol a&#8217;r diwydiant yn y DU.<\/p>\n<p>Mae olew&#8217;n chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau beunyddol, fel tanwydd, iraid a chynhwysion gweithgynhyrchu neu goginio. Gall hyd yn oed ychydig bach o&#8217;r olew hwn, os caiff ei gollli, effeithio ar ein d\u0175r, ein planhigion a&#8217;n bywyd gwyllt. Hysbysir ein rheoleiddwyr amgylcheddol am lygredd olew fwy na 3000 o weithiau bob blwyddyn. Mae hyn nid yn unig yn gwneud drwg i&#8217;r amgylchedd, ond gall effeithio ar enw da&#8217;r diwydiant olew. Gall gostio miloedd o bunnoedd i lanhau llygredd olew a gall digwyddiadau arwain at golli amser ac arian a tharfu ar fusnesau.<\/p>\n<h2><strong>Nod yr Ymgyrch Gofalu am Olew yw:<\/strong><\/h2>\n<ol>\n<li>Datblygu a rhoi canllawiau i ddefnyddwyr domestig, masnachol a diwydiannol ar drin, storio ac adfer olewau yn ddiogel, er mwyn lleihau effaith amgylcheddol olew sydd wedi cael ei golli o ganlyniad i arferion gwael wrth storio, defnyddio a gwaredu olewau.<\/li>\n<li>Hyrwyddo seilwaith gwell ar gyfer casglu hen olew a ddefnyddiwyd gan y cyhoedd.<\/li>\n<li>Codi ymwybyddiaeth o arferion adfer olew drwy hyrwyddo&#8217;r Cod Gofalu am Olew, Llinell Gwybodaeth y Banc Olew (03708 506 506), gwefan y Banc Olew (<a href=\"http:\/\/www.oilbankline.org.uk\/\">www.oilbankline.org.uk<\/a>) a darparu gwybodaeth am Ofalu am Olew ar becynnau cynhyrchion olew, mewn llawlyfrau cynnal a chadw ceir, tanciau storio olew ac ati.<\/li>\n<\/ol>\n<h2><strong>Beth a wnawn<\/strong><\/h2>\n<p>Rydym yn rhoi cyngor ar arfer da i ddefnyddwyr olew a chynhyrchwyr olew gwastraff i&#8217;w helpu i ofalu am eu holew a&#8217;i waredu yn ddiogel ac yn gyfreithlon.<\/p>\n<p>Rydym yn cynnal gwefan Llinell y Banc Olew fel y gall perchenogion cartrefi ddod o hyd i&#8217;w safle gwaredu hen olew agosaf.<\/p>\n<p>Rydym yn darparu <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/dealing-with-oil-spills\/stickers\/\">sticeri tanciau olew<\/a> ar gyfer tanciau olew domestig, diwydiannol a gwastraff. Mae&#8217;r sticeri yn rhoi cyngor ar storio olew, gyda nodyn i atgoffa pobl bod yn rhaid i danciau storio olew gael eu harchwilio bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr addas i storio eich olew a beth i&#8217;w wneud os caiff olew ei golli.<\/p>\n<h2><strong>Gall eich busnes noddi&#8217;r Ymgyrch Gofalu am Olew<\/strong><\/h2>\n<p>Ariennir yr OCC gan roddion gwirfoddol. Gall busnesau noddi&#8217;r ymgyrch fel rhan o&#8217;u gweithgaredd cyfrifoldeb cymdeithasol.<\/p>\n<p>Drwy wneud hynny mae noddwyr yn dangos eu cefnogaeth i amcanion amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol yr OCC.<\/p>\n<p>Os byddwch yn ein noddi, byddwn yn rhoi&#8217;r hawl i chi ddefnyddio ein logo, nod Masnach cofrestredig, sy&#8217;n nodi eich bod yn noddi&#8217;r OCC am y flwyddyn honno. Gellir ychwanegu&#8217;r logo at amrywiaeth o eitemau cwmni, gan gynnwys eich gwefan, papur ysgrifennu, ffurflenni, deunyddiau darllen, cardiau busnes a nwyddau hyrwyddo. Drwy ein noddi, byddwch hefyd yn:<\/p>\n<ul>\n<li>arddangos eich perfformiad corfforaethol amgylcheddol a&#8217;ch cyfrifoldeb cymdeithasol<\/li>\n<li>gwella eich enw da ymhlith y cyhoedd, cwsmeriaid a busnesau eraill<\/li>\n<li>dangos parodrwydd i helpu i hyrwyddo a sicrhau lleihad yn nifer y digwyddiadau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 llygredd a rhoi cyngor ac arweiniad i eraill<\/li>\n<li>helpu i gynnal enw da hirdymor y diwydiant olew yn y DU<\/li>\n<\/ul>\n<p>I ganfod mwy am noddi&#8217;r Ymgyrch Gofalu am Olew a&#8217;r gwaith rydym yn ei gynllunio ac yn ei gyflawni, cysylltwch \u00e2 Rheolwr yr Ymgyrch Gofalu am Olew, Liz Hobday yn <a href=\"mailto:liz.hobday@environment-agency.gov.uk\">liz.hobday@environment-agency.gov.uk<\/a><\/p>\n<h2><strong>Aelodau&#8217;r OCC yw:<\/strong><\/h2>\n<ul>\n<li>Rheoleiddwyr amgylcheddol y DU: Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth Diogelu&#8217;r Amgylchedd yr Alban<\/li>\n<li>Cyrff proffesiynol: Sefydliad Ynni<\/li>\n<li>Cymdeithasau masnach: Cymdeithas Dosbarthwyr Tanwydd y DU ac Iwerddon, Cymdeithas Dechnegol Llosgi Olew, Cymdeithas Ireidiau&#8217;r Deyrnas Unedig, Cymdeithas Ailgylchu Olew, Ffederasiwn Gosodwyr a Chynnal a Chadw Cyfarpar Petrolewm, Cymdeithas Manwerthwyr Petrol, Cymdeithas UKSpill, Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain<\/li>\n<li>Y Llywodraeth: Llywodraeth Cymru, Defra<\/li>\n<li>Busnesau sy&#8217;n gysylltiedig ag olew: Shell UK, OHES Environmental<\/li>\n<\/ul>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-2318 aligncenter\" src=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Who-we-are-logo-collection_Oct-2020-278x300.jpg\" alt=\"\" width=\"278\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Who-we-are-logo-collection_Oct-2020-278x300.jpg 278w, https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Who-we-are-logo-collection_Oct-2020-324x350.jpg 324w, https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Who-we-are-logo-collection_Oct-2020-56x60.jpg 56w, https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Who-we-are-logo-collection_Oct-2020.jpg 667w\" sizes=\"auto, (max-width: 278px) 100vw, 278px\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyflwyno Gofalu am Olew Pwy ydym ni: Ymgyrch Gofalu am Olew Mae&#8217;r Ymgyrch Gofalu am Olew (OCC) yn fenter ar y cyd rhwng rheoleiddwyr amgylcheddol, cyrff masnach a phroffesiynol a&#8217;r diwydiant yn y DU. Mae olew&#8217;n chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau beunyddol, fel tanwydd, iraid a chynhwysion gweithgynhyrchu neu goginio. Gall hyd yn oed ychydig bach o&#8217;r olew hwn, os caiff ei gollli, effeithio ar ein d\u0175r, ein planhigion a&#8217;n bywyd gwyllt. Hysbysir ein &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-494","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/494","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=494"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/494\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2321,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/494\/revisions\/2321"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=494"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}