{"id":502,"date":"2015-05-19T10:32:06","date_gmt":"2015-05-19T10:32:06","guid":{"rendered":"http:\/\/oilcare.org.uk\/?page_id=502"},"modified":"2015-07-09T16:23:25","modified_gmt":"2015-07-09T16:23:25","slug":"get-to-know-your-oil-tank","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/","title":{"rendered":"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew"},"content":{"rendered":"<h1>Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew<\/h1>\n<h2>Gwybod pa danc sydd gennych<\/h2>\n<p>Mae&#8217;n bwysig gwybod pa fath o danc a phibellau sydd gennych a sut i&#8217;w defnyddio. Dylai gweithgynhyrchydd eich tanc, gosodwr, peiriannydd cynnal a chadw neu gwmni cyflenwi olew fod yn gallu eich helpu.<\/p>\n<h2>O beth y gwnaed eich tanc?<\/h2>\n<p>Mae tanciau o bob lliw a llun ar gael ac fe&#8217;u gweithgynhyrchir fel arfer o ddur neu blastig ac mae cyfarpar a phibellau eraill yn rhan ohonynt.<\/p>\n<p>Gwneir tanciau plastig o bolyethylen wedi&#8217;i fowldio, ac maent yn wyrdd fel arfer ac o bob si\u00e2p. Mae tanciau dur fel arfer yn petryalog ac wedi&#8217;u diogelu gan haen sy&#8217;n gwrthsefyll olew. Bydd angen i chi gynnal a chadw&#8217;r haen er mwyn ymestyn oes tanc dur.<\/p>\n<p>Ar gyfer pob tanc mae&#8217;n bwysig dilyn cyfarwyddiadau cynnal a chadw gweithgynhyrchydd eich tanc neu ofyn i&#8217;ch peiriannydd archwilio am gyngor.<\/p>\n<h2>Pa fath o danc sydd gennych?<\/h2>\n<p>Mae mathau gwahanol o danciau ar gael yn dibynnu ar y gweithgynhyrchydd, ar gyfer beth y defnyddir y tanc a lle y caiff ei osod. Mae&#8217;n bwysig deall lefel y diogelwch o ran colli olew a ddarperir gan eich tanc.<\/p>\n<p><strong>Croen unigol<\/strong><\/p>\n<p>Gelwir tanc storio olew sydd ag un haen yn unig o ddur neu blastig i gynnwys y tanwydd yn danc croen unigol. Y math hwn o danc sy&#8217;n rhoi&#8217;r lefel lleiaf o ddiogelwch oherwydd bydd olew yn dianc os caiff yr haenen unigol o blastig neu ddur ei difrodi. Er mwyn cynyddu lefel y diogelwch os caiff olew ei golli, rydym yn argymell rhoi tanc croen unigol mewn bwnd cerrig neu goncrit adeiledig, a gelwir yr ail haenen ddiogelu hon yn system cynnwys eilaidd. Mae&#8217;n bwysig nodi nad yw gwaith cerrig neu goncrit sylfaenol yn anhydraidd i olew; bydd angen selio eich cynhwysdanc eilaidd i greu bwnd effeithiol. Mae deddfwriaeth yn galw am leoli rhai tanciau croen unigol mewn bwnd neu system cynnwys eilaidd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-602\" src=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg\" alt=\"\" width=\"650\" height=\"392\" \/><\/p>\n<p><strong>Mewn bwnd integrol<\/strong><\/p>\n<p><span style=\"font-size: 11.0pt; font-family: 'Arial','sans-serif';\">Gelwir tanc storio olew sy&#8217;n dod mewn bwnd mwy o faint atodedig yn danc integrol. Cynllunnir y bwnd integrol i ddal 110% o gynnwys y tanc mewnol a holl ffitiadau&#8217;r tanc olew, gan gynnwys unrhyw fentiau neu bibellau. Cyflenwir tanciau bwnd integrol fel uned gyfansawdd ac maent yn darparu lefel well o ddiogelwch rhag olew a gaiff ei golli.<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-601 size-full\" src=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_3_060715_WelshVersion-e1436458990850.jpg\" alt=\"\" width=\"650\" height=\"392\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Gorsaf ail-lenwi <\/strong><\/p>\n<p>Gelwir system tanc plastig neu ddur mewn bwnd integrol ar gyfer gwaredu tanwydd i gerbydau neu beiriannau yn orsaf ail-lenwi. Cynllunnir yr unedau hyn yn arbennig i ddal unrhyw danwydd a gaiff ei golli wrth i chi ail-lenwi cerbydau neu gyfarpar, diogelu rhag lladrad a chaniat\u00e1u i unrhyw danwydd a gaiff ei gyflenwi gael ei fesur.<\/p>\n<p><strong>Croen dwbl<\/strong><\/p>\n<p>Yr enw arall arno yw tanc wal ddwbl. Mae ganddo danc mewnol gyda thanc allanol mwy o faint o&#8217;i amgylch i&#8217;w wneud hyd yn oed yn gryfach. Nid yw&#8217;r tanc na&#8217;r croen allanol yn ddigon mawr i gynnwys 110% o gyfaint olew y tanc mewnol felly ni fyddant yn rhoi&#8217;r lefel o ddiogelwch rhag colli olew a ddarperir gan danc mewn bwnd integrol. Gan nad yw&#8217;r tanc wedi&#8217;i leoli mewn bwnd nid yw&#8217;n rhoi&#8217;r un diogelwch rhag olew a gollir drwy orlenwi&#8217;r tanc neu ddifrod i&#8217;r tanc neu unrhyw bibellau.<\/p>\n<p>Fel gyda thanciau croen unigol rydym yn argymell gosod tanciau croen dwbl uwchben y ddaear mewn bwnd neu system cynnwys eilaidd, ac mewn rhai achosion gall hyn fod yn ofyniad cyfreithiol.<\/p>\n<p><strong>Tanciau tanddaearol<\/strong><\/p>\n<p>Weithiau yr unig rhan weledol o danc tanddaearol y gallwch ei gweld yw&#8217;r agorfa sy&#8217;n darparu mynediad i&#8217;r man llenwi, y fent a&#8217;r mesurydd cynnwys.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n anoddach gofalu am danciau tanddaearol am na allwch edrych arnynt i weld a oes unrhyw ddifrod, neu i weld a oes olew&#8217;n gollwng neu wedi cael ei golli. Mae&#8217;n bwysig iawn monitro pa mor gyflym rydych yn defnyddio olew o danc tanddaearol. Os bydd lefel eich olew yn gostwng yn sydyn, dylech ofyn i unigolyn cymwys cymwysedig sydd wedi ei gofrestru i wneud gwaith gwasanaethu olew gadarnhau nad yw eich tanc na&#8217;ch pibellau yn gollwng.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2><strong>Y ffitiadau ar eich tanc<\/strong><\/h2>\n<p><strong>Man llenwi<\/strong><\/p>\n<p>Cyplydd sgriw ar gyfer pibellau y mae&#8217;r gyrrwr sy&#8217;n cyflenwi&#8217;r olew yn cysylltu ag ef i lenwi&#8217;r tanc, sydd fel arfer yn 2 fodfedd neu\/n 50mm ar ei draws. Gall y man llenwi fod ar y tanc neu gall pibell gael ei ymestyn i fan llenwi o bell. Dylech sicrhau bod gennych hambwrdd diferion ar gyfer pob pibell lenwi o bell i ddal unrhyw ddiferion na allwch eu draenio yn \u00f4l i&#8217;ch tanc. Gwiriwch yr hambwrdd diferion wrth gynnal y <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/look-after-your-oil\/regular-tank-checks\/\">gwiriadau rheolaidd <\/a>o&#8217;ch tanc.<\/p>\n<p><strong>Fent<\/strong><\/p>\n<p>Ffordd o ryddhau anwedd ac aer o&#8217;r tanc i mewn i&#8217;r atmosffer pan fydd y tanc yn cael ei lenwi ac aer i mewn i&#8217;r tanc pan fydd tanwydd yn cael ei wagio o&#8217;r tanc. Mae&#8217;n bwysig cadw fentiau&#8217;n glir er mwyn sicrhau y gall aer lifo i mewn ac allan o&#8217;r tanc yn hawdd. Dylai diamedr y bibell fent fod mor fawr \u00e2&#8217;r bibell lenwi o leiaf (fel arfer 2 fodfedd neu 50mm ar ei thraws).<\/p>\n<p><strong>Mesurydd cynnwys<\/strong><\/p>\n<p>Dyfais sy&#8217;n nodi faint o olew sydd yn y tanc. Gall mesuryddion fod yn rhai a reolir \u00e2 llaw, neu&#8217;n rhai gweledol neu ddi-wifr. Gellir darllen y mesurydd yn y tanc, wrth ymyl y tanc neu hyd yn oed mewn lleoliad o bell (er enghraifft yn y gegin). Rhaid dethol pob mesurydd cynnwys yn gywir ar gyfer y tanc sy&#8217;n cael ei fonitro fel eu bod yn rhoi darlleniadau cywir.<\/p>\n<p>Dylech gymryd gofal arbennig gyda &#8216;thiwbiau gweld&#8217; traddodiadol, ac atodir y rhain yn fertigol ar ran allanol y tanc. Maent yn dangos lefel yr olew yn y tanc pan gaiff falf ei agor. Peidiwch \u00e2 gadael y falf ar agor. Os oes gan y tiwb gweld broblem, gall hyn ddraenio&#8217;r olew i gyd allan o&#8217;r tanc. Mae angen atodi&#8217;r tiwbiau gweld yn gadarn fel nad ydynt yn hongian ac i atal olew rhag gollwng.<\/p>\n<p><strong>Falf ynysu<\/strong><\/p>\n<p>Fe&#8217;i gelwir fel arall yn falf gwasanaethu sy&#8217;n cau&#8217;r cyflenwad olew o&#8217;r tanc. I&#8217;w gweld fel arfer wrth arllwysfa&#8217;r tanc.<\/p>\n<p><strong>Dyfais atal neu rybuddio bod y tanc yn gorlenwi<\/strong><\/p>\n<p>Dyfais i osgoi colli olew oherwydd gorlenwi; gall seinio larwm a\/neu roi rhybudd gweledol, neu atal yr olew rhag mynd i mewn i&#8217;r tanc yn awtomatig.<\/p>\n<p><strong>Bwnd<\/strong> (fe&#8217;i gelwir hefyd yn gynhwysdanc eilaidd)<\/p>\n<p>Ardal o amgylch y tanc sydd wedi&#8217;i chynllunio i gynnwys unrhyw danwydd a gollir ac i atal llygredd a fydd yn dal o leiaf 110% o gynnwys y tanc. Gellir ei gweithgynhyrchu fel rhan o danc mewn bwnd integrol neu gellir ei hadeiladu ar wah\u00e2n i&#8217;r tanc. Gellir adeiladu bwnd ar wah\u00e2n o goncrit neu gerrig a sicrhau ei fod yn anhydraidd i olew. Os bydd gofynion mynediad ac iechyd a diogelwch yn caniat\u00e1u hynny, gallech roi to uwchben bwnd ar wah\u00e2n i atal y d\u0175r glaw rhag cronni. Ni ddylai fod unrhyw fylchau na gwagleoedd yn waliau&#8217;r bwnd sy&#8217;n caniat\u00e1u i olew neu dd\u0175r ddianc i&#8217;r amgylchedd.<\/p>\n<p>Efallai y bydd angen i&#8217;ch tanc gael cynhwysdanc eilaidd yn unol \u00e2&#8217;r gyfraith yn dibynnu ar ei leoliad ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio. Ond, er mwyn atal difrod i&#8217;ch eiddo ac i ddiogelu&#8217;r amgylchedd, dylech ystyried cael cynhwysdanc eilaidd, hyd yn oed os nad yw&#8217;n ofyniad cyfreithiol.<\/p>\n<p><strong>Pibellau cyflenwi<\/strong><\/p>\n<p>Gall pibellau cyflenwi fod: yn rhai copr wedi&#8217;u gorchuddio \u00e2 phlastig, ddur wedi i&#8217;w diogelu rhag rhydu neu bibell blastig gymeradwy (at ddefnydd tanddaearol). Dylai pibellau a osodir uwchben y ddaear gael eu hategu gan glipiau pwrpasol a atodir i strwythurau parhaol. Dylai pibellau tanddaearol gael eu diogelu rhag difrod ffisegol neu ddamweiniol a dylid nodi eu llwybrau gyda th\u00e2p rhybudd a gaiff ei gladdu 150mmm o dan wyneb y ddaear.<\/p>\n<p>Os defnyddir y pibellau ar gyfer offer annomestig, dylai gynnwys cyfleuster canfod gollyngiadau. Dylai unrhyw uniadau mecanyddol tanddaearol fod yn hygyrch i&#8217;w harchwilio.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew Gwybod pa danc sydd gennych Mae&#8217;n bwysig gwybod pa fath o danc a phibellau sydd gennych a sut i&#8217;w defnyddio. Dylai gweithgynhyrchydd eich tanc, gosodwr, peiriannydd cynnal a chadw neu gwmni cyflenwi olew fod yn gallu eich helpu. O beth y gwnaed eich tanc? Mae tanciau o bob lliw a llun ar gael ac fe&#8217;u gweithgynhyrchir fel arfer o ddur neu blastig ac mae cyfarpar a phibellau eraill yn &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":500,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-502","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dod yn gyfarwydd \u00e2&#039;ch tanc olew - Oil Care Company<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#039;ch tanc olew - Oil Care Company\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew Gwybod pa danc sydd gennych Mae&#8217;n bwysig gwybod pa fath o danc a phibellau sydd gennych a sut i&#8217;w defnyddio. Dylai gweithgynhyrchydd eich tanc, gosodwr, peiriannydd cynnal a chadw neu gwmni cyflenwi olew fod yn gallu eich helpu. O beth y gwnaed eich tanc? Mae tanciau o bob lliw a llun ar gael ac fe&#8217;u gweithgynhyrchir fel arfer o ddur neu blastig ac mae cyfarpar a phibellau eraill yn ...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Oil Care Company\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2015-07-09T16:23:25+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/\",\"name\":\"Dod yn gyfarwydd \u00e2'ch tanc olew - Oil Care Company\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/07\\\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg\",\"datePublished\":\"2015-05-19T10:32:06+00:00\",\"dateModified\":\"2015-07-09T16:23:25+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/07\\\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/07\\\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/get-to-know-your-oil-tank\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Gofalwch am eich Olew\",\"item\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/cy\\\/look-after-your-oil\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/\",\"name\":\"Oil Care Company\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/oilcare.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dod yn gyfarwydd \u00e2'ch tanc olew - Oil Care Company","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Dod yn gyfarwydd \u00e2'ch tanc olew - Oil Care Company","og_description":"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew Gwybod pa danc sydd gennych Mae&#8217;n bwysig gwybod pa fath o danc a phibellau sydd gennych a sut i&#8217;w defnyddio. Dylai gweithgynhyrchydd eich tanc, gosodwr, peiriannydd cynnal a chadw neu gwmni cyflenwi olew fod yn gallu eich helpu. O beth y gwnaed eich tanc? Mae tanciau o bob lliw a llun ar gael ac fe&#8217;u gweithgynhyrchir fel arfer o ddur neu blastig ac mae cyfarpar a phibellau eraill yn ...","og_url":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/","og_site_name":"Oil Care Company","article_modified_time":"2015-07-09T16:23:25+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/","url":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/","name":"Dod yn gyfarwydd \u00e2'ch tanc olew - Oil Care Company","isPartOf":{"@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg","datePublished":"2015-05-19T10:32:06+00:00","dateModified":"2015-07-09T16:23:25+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/#primaryimage","url":"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg","contentUrl":"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/Figure_4_060715_WelshVersion.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/get-to-know-your-oil-tank\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Gofalwch am eich Olew","item":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Dod yn gyfarwydd \u00e2&#8217;ch tanc olew"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/oilcare.org.uk\/#website","url":"https:\/\/oilcare.org.uk\/","name":"Oil Care Company","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/oilcare.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/502","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=502"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/502\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":613,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/502\/revisions\/613"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/500"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=502"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}