{"id":508,"date":"2015-05-19T10:34:30","date_gmt":"2015-05-19T10:34:30","guid":{"rendered":"http:\/\/oilcare.org.uk\/?page_id=508"},"modified":"2015-06-03T08:52:10","modified_gmt":"2015-06-03T08:52:10","slug":"farmers-horticulture","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/farmers-horticulture\/","title":{"rendered":"Ffermwyr \/ garddwriaeth"},"content":{"rendered":"<h1>Storio olew tanwydd ar gyfer ffermydd a busnesau garddwriaethol<\/h1>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-213 alignright\" src=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/12\/farm.jpg\" alt=\"farm\" width=\"350\" height=\"263\" srcset=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/12\/farm.jpg 350w, https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/12\/farm-300x225.jpg 300w, https:\/\/oilcare.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/12\/farm-60x45.jpg 60w\" sizes=\"auto, (max-width: 350px) 100vw, 350px\" \/>Mae gofalu am olew ar eich fferm neu yn eich busnes garddwriaethol yn golygu mwy na bodloni gofynion y rheoliadau ar storio olew. Er mwyn lleihau&#8217;r risg o golli eich olew, achosi llygredd a gorfod talu am lanhau, bydd angen i chi ymdrin \u00e2 phob agwedd ar y modd y caiff eich olew ei gyflenwi, ei storio, ei ddefnyddio a&#8217;i waredu.<\/p>\n<h2>Beth yw man storio olew tanwydd?<\/h2>\n<p>Gall man storio olew tanwydd fod yn danc unigol, tanciau lluosog, swmpgynwysyddion canolraddol (IBCs), drymiau neu danceri symudol; neu gyfuniad o&#8217;r rhain. Gallant fod mewn un ardal neu wedi eu gwasgaru ar draws eich safle.<\/p>\n<p>Mae gwybod pa reoliadau sy&#8217;n gymwys yn dibynnu ar y math o olew rydych yn ei storio, at ba ddiben y byddwch yn ei ddefnyddio a faint rydych yn ei storio. Bydd ein gwybodaeth am <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/legal-links\/\">ofynion cyfreithiol storio olew <\/a>yn eich helpu i ddod o hyd i&#8217;r rheoliadau sy&#8217;n gymwys ar gyfer eich man storio olew chi; ar fferm, efallai y bydd angen i chi fodloni hyd at dair set o reoliadau gyda gofynion gwahanol.<\/p>\n<h2>Storio eich olew yn ddiogel<\/h2>\n<p>Rhaid i chi fodloni&#8217;r gofynion sylfaenol ar gyfer unrhyw reoliadau storio olew sy&#8217;n gymwys; rydym yn argymell eich bod hefyd yn cadw eich olew:<\/p>\n<ul>\n<li>allan o olwg y cyhoedd a&#8217;r ffordd fawr<\/li>\n<li>mewn man lle mae&#8217;n hawdd cyflenwi ac ail-lenwi olew<\/li>\n<li>gyda mynediad clir yr holl ffordd o&#8217;i amgylch ar gyfer archwilio a chynnal a chadw<\/li>\n<li>gan ymgorffori mesurau atal lladron<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Goruchwylio cyflenwad o olew<\/h2>\n<p>Cyn cyflenwad, gwnewch yn si\u0175r bod y capasiti gennych i dderbyn yr olew rydych yn ei archebu. Gwnewch yn si\u0175r bod y tanciau wedi&#8217;u labelu&#8217;n glir gyda chapasiti&#8217;r tanwydd a&#8217;r math o danwydd.<\/p>\n<p>Dylech aneulu at oruchwylio pob cyflenwad o olew. Gallwch wneud yn si\u0175r bod yr olew&#8217;n cael ei roi lle mae ei angen a bod anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill dan glo. Cadwch y ffordd fynediad i&#8217;r man storio olew yn glir a sicrhewch nad oes unrhyw gerbydau, biniau, offer a chyfarpar, na deunyddiau gwastraff arni.<\/p>\n<p>Ac, os oes problem gyda&#8217;ch man storio olew neu os caiff olew ei golli wrth ei gyflenwi, byddwch wrth law i helpu a thrafod eich opsiynau.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cyflenwi&#8217;r olew, gwnewch yn si\u0175r bod y mesurydd cynnwys yn dangos faint o olew newydd sydd yn y tanc. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad oeddech yn gallu goruchwylio&#8217;r cyflenwad, oherwydd gallai eich tanwydd fod wedi cael ei anfon i rywle arall, gallech fod wedi cael swm gwahanol o olew neu gallai&#8217;r olew fod wedi gollwng. Os oes gennych fesurydd gweld allanol, gwnewch yn si\u0175r nad yw wedi dod yn rhydd a bod ei falf yn y safle cau.<\/p>\n<p>Edrychwch am unrhyw newidiadau o ran ymddangosiad y man storio olew a&#8217;i strwythur ategol. Edrychwch i weld a oes unrhyw olew newydd wedi cael ei golli neu wedi gollwng a hysbyswch y cyflenwr tanwydd cyn gynted \u00e2 phosibl os ydych yn amau bod y cyflenwad wedi colli olew.<\/p>\n<p>Os dewch o hyd i olew sydd wedi cael ei golli ac nad ydych yn si\u0175r sut i ddelio ag ef, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau\/llygredd cenedlaethol ar <strong>0800 80 70 60 <\/strong>i roi gwybod am y digwyddiad a gofyn am gyngor. Mae&#8217;r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir t\u00e2l arnoch os ydych yn defnyddio ff\u00f4n symudol.<\/p>\n<h2>Gwasanaethu cerbydau a chyfarpar<\/h2>\n<p>Os ydych yn gwasanaethu ac yn cynnal eich cerbydau a&#8217;ch cyfarpar eich hun, rydym yn argymell:<\/p>\n<ul>\n<li>eich bod yn gwneud y gwaith gwasanaethu ar arwyneb anhydraidd ac mewn adeilad, os yw hynny&#8217;n bosibl<\/li>\n<li>eich bod yn defnyddio hambyrddau diferion pan fyddwch yn newid yr olew ac i ddal unrhyw olew neu danwydd sy&#8217;n cael ei golli<\/li>\n<li>eich bod yn storio hen olew mewn cynwysyddion addas mewn bwnd<\/li>\n<li>nad ydych yn pentyrru hen olew; eich bod yn ei waredu yn gyfreithlon cyn gynted ag y bo&#8217;n ymarferol bosibl<\/li>\n<li>eich bod yn cadw pecyn colli olew wrth law<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Lleihau eich risg o ladrad a fandaliaeth<\/h2>\n<p>Mae dwyn olew yn mynd yn broblem fwy cyffredin. Cymerwch gamau i ddiogelu eich busnes:<\/p>\n<ul>\n<li>storiwch eich olew mewn adeilad dan glo (os yw&#8217;n bosibl)<\/li>\n<li>storiwch eich olew allan o olwg y cyhoedd, y ffordd fawr a hawliau tramwy<\/li>\n<li>cloewch unrhyw dapiau sefydlog parhaol, falfiau neu bibellau hyblyg pan na fyddwch yn eu defnyddio<\/li>\n<li>storiwch yr holl rannau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 thanciau olew a chynwysyddion olew mewn bwnd<\/li>\n<li>gwnewch yn si\u0175r bod eich yswiriant yn cwmpasu lladrad a fandaliaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhagor o syniadau ar gael yn ein gwybodaeth am <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/look-after-your-oil\/theft-prevention\/\">atal lladrad<\/a>.<\/p>\n<h2>Delio ag olew sydd wedi cael ei golli<\/h2>\n<p>A fyddech chi a&#8217;ch staff yn gwybod beth i&#8217;w wneud pe bai olew yn cael ei golli?<\/p>\n<p>Byddwch yn barod! Mae cynllunio a pharatoi da yn lleihau&#8217;r risg y daw achos o golli olew yn ddigwyddiad llygredd. Cewch wybod sut i baratoi ar gyfer achos o golli olew gyda&#8217;n gwybodaeth am <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/dealing-with-oil-spills\/spill-training\/\">hyfforddiant ar golli olew.<\/a><\/p>\n<p>Lluniwch gynllun ymateb i ddigwyddiad llygredd fel eich bod chi, eich cyflogeion ac eraill sy&#8217;n ymweld \u00e2&#8217;ch safle yn rheolaidd yn gwybod beth i&#8217;w wneud os bydd digwyddiad.<\/p>\n<h2>Cynnal a chadw<\/h2>\n<p>Dylai pob man sy&#8217;n storio olew gael ei wirio&#8217;n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod mewn cyflwr da. Os defnyddir tanciau ail-lenwi dylid eu cynnal a&#8217;u cadw yn unol \u00e2 chyfarwyddiadau&#8217;r gweithgynhyrchydd er mwyn sicrhau bod hidlyddion, falfiau cau, pibelli hyblyg, a chyfarpar arall mewn cyflwr da ac yn gweithio&#8217;n iawn.<\/p>\n<p>Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch cyfanrwydd gosodiad storio olew, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor gan weithiwr olew proffesiynol cymwys.<\/p>\n<p>Gwnewch yn si\u0175r bod gwaith cynnal a chadw neu atgyweiriadau&#8217;n cael eu gwneud yn brydlon gan unigolyn cymwys.<\/p>\n<h2>Ble y gallaf gael rhagor o gyngor?<\/h2>\n<p>I gael cyngor cyffredinol ar osod tanciau storio olew tanwydd a chynnal a chadw tanciau olew, cysylltwch ag unigolyn cymwys. Mae gweithredwyr Cynllun Unigolion Cymwys (CUC) yn cynnig cyfleuster chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ff\u00f4n. Gellir dod o hyd i weithredwyr CUC ar-lein yn y <a href=\"http:\/\/www.competentperson.co.uk\/\">Gofrestr Unigolion Cymwys<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Storio olew tanwydd ar gyfer ffermydd a busnesau garddwriaethol Mae gofalu am olew ar eich fferm neu yn eich busnes garddwriaethol yn golygu mwy na bodloni gofynion y rheoliadau ar storio olew. Er mwyn lleihau&#8217;r risg o golli eich olew, achosi llygredd a gorfod talu am lanhau, bydd angen i chi ymdrin \u00e2 phob agwedd ar y modd y caiff eich olew ei gyflenwi, ei storio, ei ddefnyddio a&#8217;i waredu. Beth yw man storio olew &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":500,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-508","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/508","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=508"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/508\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":569,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/508\/revisions\/569"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/500"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=508"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}