{"id":656,"date":"2016-02-10T15:38:02","date_gmt":"2016-02-10T15:38:02","guid":{"rendered":"http:\/\/oilcare.org.uk\/?page_id=656"},"modified":"2017-10-17T08:58:11","modified_gmt":"2017-10-17T08:58:11","slug":"cael-tanc-olew-newydd-ich-cartref-pethau-i-feddwl-amdanynt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/cael-tanc-olew-newydd-ich-cartref-pethau-i-feddwl-amdanynt\/","title":{"rendered":"Cael tanc olew newydd i\u2019ch cartref: pethau i feddwl amdanynt"},"content":{"rendered":"<h1><strong>Cael tanc olew newydd i\u2019ch cartref: pethau i feddwl amdanynt<\/strong><\/h1>\n<p>Os ydych chi eisiau prynu tanc olew newydd, neu adnewyddu eich tanc presennol, mae angen i chi wneud yn si\u0175r eich bod yn <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/cysylltiadau-cyfreithiol\/\">cydymffurfio a\u2019r gyfraith<\/a>, ac mae angen i chi ystyried pethau ymarferol hefyd. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu chi i ddeall beth ddylech chi chwilio amdano a gofyn amdano pan fyddwch yn cael eich dyfynbris am osod y tanc.<\/p>\n<p>Mae angen i chi ystyried:<\/p>\n<ul>\n<li>ble fyddwch yn rhoi eich tanc<\/li>\n<li>y math o danc y mae arnoch ei angen<\/li>\n<li>mynediad i chi a\u2019r gyrrwr lori sy\u2019n llenwi\u2019r tanc<\/li>\n<li>gosod y tanc yn gywir er mwyn cynnal gwarant y tanc a lleihau\u2019r risg o d\u00e2n<\/li>\n<li>tynnu eich hen danc a\u2019r pibelli<\/li>\n<li>gofynion eich cwmni yswiriant<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym yn eich argymell i gael cyngor gosodwr tanciau cymwys. Gallan nhw eich helpu chi i gydymffurfio i ddeddfwriaeth a gwneud yn si\u0175r fod y tanc yn addas i\u2019ch anghenion chi. Byddan nhw\u2019n chwilio am lif<br \/>\nd\u0175r cyfagos, cloriau tyllau caead rhydd, ffynhonnau, tyllau turio, lefel trwythiad uchel neu ardaloedd d\u0175r daear sensitif. Gallai unrhyw un o\u2019r rhain effeithio ar ble gallwch roi\u2019ch tanc a gallai olygu bod angen ail gynhwysydd arnoch er mwyn ufuddhau i\u2019r gyfraith. Gall person cymwys roi gwasanaeth gwerth am arian oherwydd byddan nhw\u2019n eich helpu chi i osgoi problemau posibl neu osod tanc yn anghyfreithlon.<\/p>\n<p>Fel arfer, mae gweithredwyr y Cynllun Person Cymwys yn cynnig chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ff\u00f4n ar eich cyfer. Gellir dod o hyd i weithredwyr y Cynllun ar-lein ar y <a href=\"http:\/\/www.competentperson.co.uk\/\">Competent Persons Register.<\/a><\/p>\n<h2><strong><u>Ble i osod eich tanc<\/u><\/strong><\/h2>\n<p>Gall effaith gollyngiad olew heb ei ganfod, yn enwedig o danc neu bibelli tanddaearol fod yn ddifrifol ar eich eiddo, eich iechyd ac ar yr amgylchedd. Mae angen i chi feddwl yn ofalus am y lle gorau i osod eich tanc a gwneud yn si\u0175r eich bod yn cydymffurfio \u00e2 <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/cysylltiadau-cyfreithiol\/\">rheoliadau adeiladu lleol<\/a>.<\/p>\n<p>Rydym yn argymell fod\u00a0 eich tanc yn cael ei osod y tu allan, uwchben y tir gydag amddiffynfa ychwanegol o\u2019i gwmpas. Lleolwch eich tanc mewn safle fydd yn lleihau\u2019r risg o lygredd ac yn cynyddu ei diogelwch.\u00a0 Ystyriwch ei roi yng ngolwg ystafell a ddefnyddir yn aml er mwyn i chi allu cadw llygad arno. Mae dwyn o danciau olew yn mynd yn fwy cyffredin.<\/p>\n<p>Nid ydym yn argymell gosod tanciau storio olew dan y ddaear. Efallai y bydd angen i chi gael caniat\u00e2d cynllunio i osod tanc storio olew dan y ddaear. Os ydych chi\u2019n credu mai dyma yw\u2019ch unig ddewis, cysylltwch \u00e2\u2019ch rheolydd amgylcheddol i gael eu cyngor nhw cyn archebu neu osod tanc er mwyn trafod ydy hyn yn bosibl, yn ddiogel neu\u2019n gyfreithlon. Hwyrach fod cyfyngiadau ar ble gallwch osod tanciau tanddaearol mewn ardaloedd d\u0175r daear sensitif.<\/p>\n<p>Gellir gosod tanciau olew y tu mewn i adeilad, ond bydd angen gwneud yn si\u0175r fod amddiffynfa bellach o\u2019i gwmpas. Fe allai hyn\u00a0 fod yn ofyniad cyfreithiol. Dylid cadw\u2019r tanc mewn siambr sy\u2019n gwrthsefyll t\u00e2n ar y lefel isaf bosibl yn yr adeilad. Os oes gennych, neu os ydych chi\u2019n ystyried y math hwn o osod, gofynnwch i osodwr tanc cymwys am gyngor.<\/p>\n<p>Dylech wneud yn si\u0175r fod y lleoliad rydych chi\u2019n bwriadu gosod eich tanc yn rhydd o unrhyw berygl llifogydd . Mae risg uchel o ddifrod i danciau olew mewn lleoliad sy\u2019n cael llifogydd. Mae rhagor o gyngor ar gael yn ein <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/canllawiau-ar-lifogydd\/\">canllawiau llifogydd<\/a>.<\/p>\n<h2><strong><u>Pa fath o danc sydd ei angen arnoch?<\/u><\/strong><\/h2>\n<p><u>Tanciau uwchlaw\u2019r ddaear<\/u><\/p>\n<p>Dewiswch danc sydd wedi\u2019i gynhyrchu i safon berthnasol a gydnabyddir yn Ewrop, Prydain neu gan y diwydiant. Mae\u2019r rhain yn dangos bod tanc wedi\u2019i gynhyrchu a\u2019i brofi i safonau ansawdd llym. Dylid marcio tanciau olew yn glir gyda gallu llenwi penodol (uchafswm) er mwyn cynorthwyo gydag archebu tanwydd. Rhaid i\u2019r holl danciau newydd ddangos gwybodaeth ynghylch pa gamau i\u2019w cymryd os oes olew yn gollwng. Os ydy hwn ar goll o\u2019ch tanc, gallwch gael <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/delio-ag-olew-sydd-wedi-cael-ei-golli\/stickers\/\">sticer <\/a>gennym.<\/p>\n<p><u>Tanciau olew domestig dan y ddaear<\/u><\/p>\n<p>Dim ond tanciau sydd wedi\u2019u cynllunio\u2019n benodol a\u2019u hadeiladu at ddefnydd tanddaearol ddylai gael eu claddu\u2019n rhannol neu\u2019n gyfan gwbl dan y ddaear. Mae gwneuthuriad arbennig yn galluogi tanciau tanddaearol i wrthsefyll y pwysau a roddir ar ochr allanol y tanc pan fydd yn wag. Rydym yn eich argymell i geisio cyngor arbenigol os ydych chi\u2019n bwriadu gosod tanc tanddaearol. Sicrhewch fod gosodwr eich tanc yn dilyn cyfarwyddiadau&#8217;r cwmni sydd wedi gwneud y tanc i osod tanc olew domestig tanddaearol, yn enwedig o ran yr uchafswm dyfnder, swm y deunydd llenwi i mewn a\u2019r concrid. Dylid cau\u2019r tanciau mewn concrid a\u2019u lleoli o leiaf ddau fetr i ffwrdd o unrhyw ardal lle mae cerbydau yn symud neu\u2019n parcio.<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\">Tanciau ail law<\/span><\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n ystyried prynu tanc ail law, gwnewch yn si\u0175r eich bod wedi ei arolygu gan berson cymwys cyn i chi ei osod. Mae perygl y gallai defnydd blaenorol a symud y tanc cael effaith niweidiol ar y cynhwysydd. Gallai hyn gynnwys cyrydiad, effeithiau heneiddio golau haul, ddifrod i gysylltiadau peipiau neu seliau a ffitiadau. Er ei bod yn ymddangos bod y difrod hwn yn fach gall arwain at broblemau hirdymor a chi sy&#8217;n gyfrifol am yr olew yr ydych yn ei storio yn eich cartref; gweler ein tudalen ar effeithiau gollyngiadau olew a pheth mae hyn yn gallu golygu.<\/p>\n<p>Peidiwch byth \u0101 phrynu tanc sy&#8217;n amlwg allan o&#8217;i si\u00e2p arferol, neu danciau metel gyda hoel rhwyd a phlastig sy&#8217;n weladwy wedi gwynnu, cracio neu ddechrau hollti.<\/p>\n<h2><strong><u>Mynediad i\u2019ch tanc<\/u><\/strong><\/h2>\n<p>Bydd angen i chi a\u2019ch gyrrwr cludiant gael mynediad clir i\u2019ch tanc ac o\u2019i amgylch er mwyn i chi allu <a href=\"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/look-after-your-oil\/regular-oil-tank-checks\/\">gwirio eich tanc<\/a> a gwneud yn si\u0175r fod eich tanc yn cael ei lenwi\u2019n ddiogel.<\/p>\n<p>Meddyliwch am:<\/p>\n<ul>\n<li>ble mae\u2019r tanc, gwnewch yn si\u0175r fod lle o gwmpas y tanc er mwyn i chi allu ei archwilio\u2019n weledol ac er mwyn i\u2019r gyrrwr allu sefyll yn ymyl y tanc pan fydd yn cael ei lenwi<\/li>\n<li>ble mae\u2019r pwynt llenwi, ydy\u2019r gyrrwr yn gallu ei gyrraedd yn hwylus, heb ddringo dros rwystrau na drwy gwrych<\/li>\n<li>ble mae\u2019r tancer olew yn parcio<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch i\u2019ch cwmni cyflenwi edrych ar eich safle.<\/p>\n<h2><strong><u>Gosod yn gywir<\/u><\/strong><\/h2>\n<p><u>Gwneud yn si\u0175r fod y sail ar gyfer eich\u00a0 tanc olew yn iawn<\/u><\/p>\n<p>Mae\u2019r Rheoliadau Adeiladu\u2019n gofyn i danciau olew gael eu gosod ar sail lefel a sefydlog sy\u2019n ymestyn i isafswm o 300mm heibio i bwynt lletaf y tanc i bob cyfeiriad. Bydd hyn yn helpu atal t\u00e2n rhag lledu i\u2019ch tanc o safleoedd neu adeiladau gerllaw.<\/p>\n<p>Gellir adeiladu\u2019r sail o slab trwchus o 100mm o goncrid neu slabiau palmant sy\u2019n 50 mm o drwch o leiaf. Yn y ddau achos, rhaid i\u2019r sail gael ei hadeiladu ar sylfaen gadarn sy\u2019n addas ar gyfer y tir.<\/p>\n<p><u>Tanciau wedi\u2019u codi<\/u><\/p>\n<p>Lle mae angen codi tanciau olew, er enghraifft, er mwyn gosod popty amlbwrpas, mae\u2019n bwysig bod y tanc yn cael ei osod yn gywir a bod cyfarwyddiadau gosod yn cael eu dilyn. Rhaid cynnal tanciau olew plastic ar draws y sail y tanc i gyd.<\/p>\n<h2><strong><u>Symud eich hen danc a phibelli<\/u><\/strong><\/h2>\n<p>Dylid digomisiynu, a gwneud yn si\u0175r fod popeth yn iawn gyda\u2019r tanc a\u2019r pibelli. Marciwch yn glir unrhyw danc olew a phibelli nad ydych yn eu defnyddio. Y peth gorau fyddai cael y tanc a\u2019r pibelli wedi\u2019u symud gan rywun proffesiynol cyn gynted \u00e2 phosibl er mwyn osgoi eu llenwi mewn camgymeriad ac achosi llygredd. Os na ellir symud y pibelli, yna dylid rhoi cap parhaol arno er mwyn gwneud yn si\u0175r nad oes neb yn ceisio\u2019i defnyddio. Dylai\u2019r person sy\u2019n gosod y tanc allu tynnu\u2019r hen danc a\u2019r pibelli fel rhan o\u2019r gwaith o osod eich tanc newydd. Cofiwch nodi hyn yn eich contract gwaith.<\/p>\n<h2><strong><u>Gofynion eich cwmni yswiriant<\/u><\/strong><\/h2>\n<p>Rydym yn eich cynghori i ddilyn cyngor eich cwmni yswiriant &#8211; mae\u2019n bosibl y bydd ganddyn nhw farn ar leoliad y tanc o ran sut gallai effeithio ar yswiriant yr adeilad a\u2019r cynnwys. Maen nhw gallu rhoi cyngor hefyd ar ddiogelwch y tanc a allai effeithio ar yr hyn yr ydych yn ei dalu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cael tanc olew newydd i\u2019ch cartref: pethau i feddwl amdanynt Os ydych chi eisiau prynu tanc olew newydd, neu adnewyddu eich tanc presennol, mae angen i chi wneud yn si\u0175r eich bod yn cydymffurfio a\u2019r gyfraith, ac mae angen i chi ystyried pethau ymarferol hefyd. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu chi i ddeall beth ddylech chi chwilio amdano a gofyn amdano pan fyddwch yn cael eich dyfynbris am osod y tanc. Mae angen &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":500,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-656","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/656","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=656"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/656\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":719,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/656\/revisions\/719"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/500"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/oilcare.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=656"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}