Osgoi Llygredd
Mae sawl ffordd y gall cymunedau, busnesau, a phobl warchod eu hamgylcheddau lleol.
Pan fydd olewau a llygrwyr eraill yn cyrraedd ein hafonydd a’n nentydd, maent yn niweidio’r amgylchedd yn ogystal â’r holl blanhigion ac anifeiliaid sy’n ddibynnol ar y dŵr. Gall yr olew hefyd effeithio ar fwynhad pobl o’r dirwedd, gan effeithio ar iechyd a lles.
Deall Gofal Olew
Mae gofalu am olew yn mynd y tu hwnt i’r gofynion storio cyfreithlon – ond mae’r rheini’n fan cychwynnol da.
Trwy ofalu am eich olew pan fydd yn eich cyrraedd, yn cael ei storio, ei ddefnyddio, a’i waredu, byddwch yn arbed arian ac yn lleihau’r tebygolrwydd o lygru gyda’ch olew.
Cymerwch gipolwg ar ein cyngor:
- Pysgod Melyn- cynnal cymuned ddiogel a glân- ‘dŵr glaw yn unig i’r draen’
- perchnogion tanciau olew mewn ardaloedd â pherygl llifogydd- sicrhewch na all eich tanc gael ei olchi ymaith
- gwarchod eich olew rhag lladron – Diogelwch eich olew, mae lladrad yn broblem gynyddol
- modurwyr – os ydych yn newid eich olew eich hunain, rhaid gwaredu’n ddiogel a chyfreithlon
- Perchenogion Cychod – Chi, eich cwch a Gofalu am Olew
- I’r rhai sy’n defnyddio olew bioddiraddadwy – dyma’r manylion