Damwain ar fferm yn achosi i 1,500 litr o olew ollwng yng Nghanolbarth Lloegr
Beth Ddigwyddodd
Roedd fferm yng Nghanolbarth Lloegr wedi cael gosod tanc â bwnd integredig newydd i gynhesu’r ffermdy.
Roedd y ffermwr wrthi’n defnyddio peiriannau trwm i glirio’r eiddew oddi ar wal gyfagos pan drawodd y tanc ar ddamwain – heb iddo sylwi.
Yn ddiweddarach y noson honno trodd y tanc drosodd a syrthio oddi ar ei sylfaen – oedd wedi ei wneud o frics wedi’u stacio ac nad oedd yn bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer ei osod yn ddiogel.
Diferodd 1,500 litr o olew gwresogi, cerosin, o’r tanc.
Pan geisiodd y ffermwr unioni’r tanc gan ddefnyddio atodiad fforch ar ei dractor cafodd y tanc mewnol a’r bwnd integredig eu trywanu, gan ychwanegu at y perygl o lygredd.
Aeth swyddogion yr Environment Agency draw i’r digwyddiad a defnyddio offer rheoli llygredd i gyfyngu ar ledaeniad yr olew.
Llwyddodd eu hymdrechion i rwystro digwyddiad llygredd a allasai fod yn un difrifol i lawr yr afon. Ond gan fod olew yn y dŵr daear bydd y gwaith clirio yn gostus.
Beth oedd yr effaith
Llifodd y rhan fwyaf o’r cerosin i lawr hyd ochr y ffermdy ac o dan y wal i mewn i’r sylfeini.
Ond roedd draen dŵr wyneb 20 m o’r tanc yn cysylltu â nant leol.
Llifodd rhywfaint o olew hefyd i mewn i ffynnon ddomestig drwy ei wal frics. Er nad yw’r ffynnon yn cael ei defnyddio ar gyfer dŵr yfed rhoddodd hyn lwybr cyflym i’r cerosin gyrraedd y dŵr daear lleol ac mae’r cwmni clirio amgylcheddol wedi gorfod gosod pympiau ac offer gwahanu olew a disgwylir i’r rhain fod ar y safle am fisoedd.
Beth oedd y canlyniad
Bu’n rhaid i’r ffermwr dalu costau amser a’r offer a ddefnyddiwyd gan yr Environment Agency o fwy na £1,300 – ond dyma un o’r costau lleiaf yn achos y digwyddiad hwn.
Gall costau’r math hwn o ddigwyddiad gynyddu’n gyflym ac, yn ddibynnol ar y math o bolisi sydd gennych, efallai na fydd eich yswiriant bob amser yn talu.
Mae angen ichi ystyried costau uniongyrchol am golli’r olew ei hun, tanc storio olew newydd (a chanddo fwnd integredig os yw’n bosibl) a gosod sylfaen diogel, newydd i’r tanc. Ond yn ogystal mae’r gwaith o gloddio pridd halogedig, gwaredu pridd oddi ar y safle (fel gwastraff perygl neu arbennig), cynnal sylfeini eich cartref petai’r olew yn cyrraedd eich cartref a hyd yn oed cloddio’r olew o ystafelloedd mewnol.
Mae hyn yn cynyddu’r costau i berchennog y tanc olew i unrhyw swm rhwng £80,000 ac oddeutu hanner miliwn.
Ac nid yw hyn yn cyfrif yr amser pan na fyddech chi a’ch cymdogion yn gallu byw yn eich cartref, y planhigion gardd a gollir, yr effeithiau ar iechyd yn deillio o’r arogl a mwy …
Beth a ddysgwyd ganddynt
Mae’n hanfodol fod yr holl danciau yn cael eu gosod yn ddiogel – dilynwch gyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr yn ofalus. Mae cael y sylfaen cywir ar gyfer eich tanc yn bwysig. Rhaid gosod tanciau plastig ar sylfaen wastad a chadarn. Rhaid i bob tanc domestig (rhai a ddefnyddir ar gyfer cynhesu neu goginio yn eich cartref) gael sylfaen sy’n ymestyn o leiaf 300mm heibio pwynt lletaf y tanc i bob cyfeiriad ar gyfer diogelwch tân. Os na fyddwch yn gwneud hyn:
- efallai y bydd gwarant y gwneuthurwr yn cael ei ddirymu
- efallai na fydd eich yswiriant yn talu os bydd olew yn gollwng
- mae unrhyw danc a osodwyd ar ôl mis Ebrill 2002 yn torri Rheoliadau Adeiladu
Os yw tanc yn cael ei osod yn ymyl safle lle defnyddir cerbydau dylech ystyried gosod darpariaeth rhag gwrthdrawiad.