Cyflwyno Gofalu am Olew

Pwy ydym ni: Ymgyrch Gofalu am Olew

Mae’r Ymgyrch Gofalu am Olew (OCC) yn fenter ar y cyd rhwng rheoleiddwyr amgylcheddol, cyrff masnach a phroffesiynol a’r diwydiant yn y DU.

Mae olew’n chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau beunyddol, fel tanwydd, iraid a chynhwysion gweithgynhyrchu neu goginio. Gall hyd yn oed ychydig bach o’r olew hwn, os caiff ei gollli, effeithio ar ein dŵr, ein planhigion a’n bywyd gwyllt. Hysbysir ein rheoleiddwyr amgylcheddol am lygredd olew fwy na 3000 o weithiau bob blwyddyn. Mae hyn nid yn unig yn gwneud drwg i’r amgylchedd, ond gall effeithio ar enw da’r diwydiant olew. Gall gostio miloedd o bunnoedd i lanhau llygredd olew a gall digwyddiadau arwain at golli amser ac arian a tharfu ar fusnesau.

Nod yr Ymgyrch Gofalu am Olew yw:

  1. Datblygu a rhoi canllawiau i ddefnyddwyr domestig, masnachol a diwydiannol ar drin, storio ac adfer olewau yn ddiogel, er mwyn lleihau effaith amgylcheddol olew sydd wedi cael ei golli o ganlyniad i arferion gwael wrth storio, defnyddio a gwaredu olewau.
  2. Hyrwyddo seilwaith gwell ar gyfer casglu hen olew a ddefnyddiwyd gan y cyhoedd.
  3. Codi ymwybyddiaeth o arferion adfer olew drwy hyrwyddo’r Cod Gofalu am Olew, Llinell Gwybodaeth y Banc Olew (03708 506 506), gwefan y Banc Olew (www.oilbankline.org.uk) a darparu gwybodaeth am Ofalu am Olew ar becynnau cynhyrchion olew, mewn llawlyfrau cynnal a chadw ceir, tanciau storio olew ac ati.

Beth a wnawn

Rydym yn rhoi cyngor ar arfer da i ddefnyddwyr olew a chynhyrchwyr olew gwastraff i’w helpu i ofalu am eu holew a’i waredu yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Rydym yn cynnal gwefan Llinell y Banc Olew fel y gall perchenogion cartrefi ddod o hyd i’w safle gwaredu hen olew agosaf.

Rydym yn darparu sticeri tanciau olew ar gyfer tanciau olew domestig, diwydiannol a gwastraff. Mae’r sticeri yn rhoi cyngor ar storio olew, gyda nodyn i atgoffa pobl bod yn rhaid i danciau storio olew gael eu harchwilio bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr addas i storio eich olew a beth i’w wneud os caiff olew ei golli.

Gall eich busnes noddi’r Ymgyrch Gofalu am Olew

Ariennir yr OCC gan roddion gwirfoddol. Gall busnesau noddi’r ymgyrch fel rhan o’u gweithgaredd cyfrifoldeb cymdeithasol.

Drwy wneud hynny mae noddwyr yn dangos eu cefnogaeth i amcanion amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol yr OCC.

Os byddwch yn ein noddi, byddwn yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio ein logo, nod Masnach cofrestredig, sy’n nodi eich bod yn noddi’r OCC am y flwyddyn honno. Gellir ychwanegu’r logo at amrywiaeth o eitemau cwmni, gan gynnwys eich gwefan, papur ysgrifennu, ffurflenni, deunyddiau darllen, cardiau busnes a nwyddau hyrwyddo. Drwy ein noddi, byddwch hefyd yn:

  • arddangos eich perfformiad corfforaethol amgylcheddol a’ch cyfrifoldeb cymdeithasol
  • gwella eich enw da ymhlith y cyhoedd, cwsmeriaid a busnesau eraill
  • dangos parodrwydd i helpu i hyrwyddo a sicrhau lleihad yn nifer y digwyddiadau sy’n ymwneud â llygredd a rhoi cyngor ac arweiniad i eraill
  • helpu i gynnal enw da hirdymor y diwydiant olew yn y DU

I ganfod mwy am noddi’r Ymgyrch Gofalu am Olew a’r gwaith rydym yn ei gynllunio ac yn ei gyflawni, cysylltwch â Rheolwr yr Ymgyrch Gofalu am Olew, Liz Hobday yn liz.hobday@environment-agency.gov.uk

Aelodau’r OCC yw:

  • Rheoleiddwyr amgylcheddol y DU: Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban
  • Cyrff proffesiynol: Sefydliad Ynni
  • Cymdeithasau masnach: Cymdeithas Dosbarthwyr Tanwydd y DU ac Iwerddon, Cymdeithas Dechnegol Llosgi Olew, Cymdeithas Ireidiau’r Deyrnas Unedig, Cymdeithas Ailgylchu Olew, Ffederasiwn Gosodwyr a Chynnal a Chadw Cyfarpar Petrolewm, Cymdeithas Manwerthwyr Petrol, Cymdeithas UKSpill, Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain
  • Y Llywodraeth: Llywodraeth Cymru, Defra
  • Busnesau sy’n gysylltiedig ag olew: Shell UK, OHES Environmental