Storio olew mewn lleoliadau lle mae perygl o lifogydd neu mewn mannau agored

floodGall llygredd olew mewn llifogydd olygu bod y gwaith glanhau ar ôl i’r dŵr ddraenio i ffwrdd yn cymryd mwy o amser o lawer. Cymerwch gamau i ddiogelu eich olew.

Tanciau sydd wedi’u lleoli yn agos at ddŵr neu mewn mannau agored

Ddylech ond gosod tanc storio olew mewn lleoliad sy’n debygol o orlifo, neu yn agored i wyntoedd cryfion,os nad oes unrhyw ddewis arall. Os bydd eich tanc mewn ardal sy’n debygol o orlifo, dylai gael cynhwysdanc eilaidd (bwnd). Bydd tanc ag arllwysfa ar ei ben yn diogelu eich olew yn well mewn llifogydd. Bydd angen i chi atal eich tanc rhag arnofio hefyd os gall dŵr llifogydd godi o’i amgylch. Gwnewch yn siŵr bod eich tanc ar lefel y ddaear ac ar sail sy’n anhylosg ac anhydraidd. Os yw’n bosibl, gosodwch y tanc ar lwyfan sy’n uwch na’r lefel ragweledig fwyaf ar gyfer llifogydd. Bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn cynnal a chadw’r tanc ac yn ei lenwi’n ofalus. Efallai y bydd angen man llenwi o bell arnoch fel y gellir llenwi eich tanc o lefel y ddaear.

Cadw tanc olew yn ei le

Os gall dŵr llifogydd neu wyntoedd cryfion symud eich tanc bydd angen i chi sicrhau ei fod yn sownd er mwyn lleihau’r posibilrwydd y gallai hyn ddigwydd. Rhowch ddull atal, sydd wedi ei angori’n gadarn, ar eich tanc fel cam rhagofalus er mwyn atal eich tanc rhag symud yn ddifrifol. Os bydd eich tanc yn symud, gallai beri i’r tanc syrthio drosodd, gwanhau neu dorri’r pibellau sy’n cyflenwi’r olew ac achosi llygredd. Un ffordd o gadw eich tanc yn ei le yw drwy ddefnyddio ‘band adeiladwr’ galfanedig 20mm wedi ei osod sawl gwaith o amgylch y tanc a’i roi yn sownd wrth waelod y tanc. Ni ddylid tynhau’r band yn erbyn arwyneb y tanc gan y bydd hyn yn cyfyngu ar symudiad naturiol y tanc. Os caiff ei osod yn rhy dynn, gall y band ruglo, torri neu roi gormod o straen ar y tanc. Cyn i chi osod dull atal ar eich tanc, dylech gysylltu â gweithgynhyrchydd eich tanc i gael cyngor ar ble y mae’n ddiogel i chi angori’r tanc.

Ble y gallaf gael rhagor o gyngor?

Am gyngor cyffredinol ar osod tanciau storio olew gwresogi, cysylltwch ag unigolyn cymwys. Mae gweithredwyr Cynllun Unigolion Cymwys (CUC) yn cynnig cyfleuster chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ffôn. Gellir dod o hyd i weithredwyr CUC ar-lein yn y Gofrestr Unigolion Cymwys.