Cysylltiadau Cyfreithiol

Gofynion cyfreithiol ar gyfer storio olew

Mae’r gofynion cyfreithiol sylfaenol ar gyfer storio olew yn dibynnu ar ble rydych yn y DU ac at ba ddiben y caiff yr olew a gaiff ei storio gennych ei ddefnyddio neu ai olew gwastraff ydyw.

Gwiriwch y manylion isod i weld beth sy’n gymwys ar gyfer eich man storio olew chi.

Rheoliadau storio olew i berchenogion cartrefi yn Lloegr, Gogledd iwerddon a’r Alban; y rheoliadau adeiladu

Os ydych yn storio olew yn eich cartref at ddibenion gwresogi neu goginio, mae’n ofyniad cyfreithiol i fodloni rheoliadau adeiladu cyfredol bob tro y cewch danc olew newydd.

Mae rheoliadau adeiladu yn darparu fframwaith ar gyfer safonau technegol a pherfformiad gofynnol sy’n gysylltiedig â dylunio ac adeiladu adeiladau a gwasanaethau sefydlog. Mae gofynion o ran rheoliadau adeiladu ar gyfer systemau storio a chyflenwi tanwydd ar gyfer olew gwresogi neu LPG.

Gallwch wirio eich bod yn bodloni’r gofynion hyn, a sicrhau bod unrhyw grefftwyr a dalwch i wneud y gwaith yn eu bodloni hefyd, drwy ddilyn canllawiau rhanbarthol:

Gall y gofynion amrywio fesul rhanbarth felly mae’n bwysig nodi beth sydd angen i chi ei wneud.

Rheoliadau storio olew i berchenogion cartrefi yn Nghymru

Os ydych yn storio olew yn eich cartref yng Nghymru ar gyfer gwresogi neu coginio, rhaid i chi gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Storio Olew ar gyfer Cymru, hyn bob tro y byddwch gennych danc olew newydd neu amnewid.

Cyn i chi gael tanc wedi gosod, dylech wirio eich hawliau datblygu, a ganiateir yn lleol, ar gyfer gosod tanc olew cartrefol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllawiau technegol Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad a ganiateir i berchenogion tai.

Rheoliadau storio olew ar gyfer busnes

Os ydych yn storio a/neu’n defnyddio olew yn y DU, rhaid i chi gydymffurfio â gofynion y wlad rydych yn byw ynddi gan fod Rheoliadau Storio Olew penodol ar gyfer pob un.

Ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) 2001

Ar gyfer yr Alban, Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Storio Olew) (yr Alban) 2006

Ar gyfer Gogledd Iwerddon, Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Gogledd Iwerddon) 2010

Ar gyfer Cymru, Y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016

Rheoliadau storio olew ar gyfer ffermydd

Gall y gofynion cyfreithiol ar gyfer storio olew ar ffermydd ddibynnu ar beth y defnyddir yr olew ar ei gyfer.

Ar gyfer Lloegr:
Os ydych yn storio cyfanswm o fwy na 1500 o litrau o olew ar eich fferm i ddarparu gwres neu bŵer ar gyfer gwaith amaethyddol, ac mae’r man storio wedi cael ei osod, ei ehangu’n sylweddol neu ei adeiladu ers 1991, mae angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, slyri ac olew tanwydd amaethyddol) (Lloegr) 2010.

Os ydych yn storio olew ar safle amaethyddol ar gyfer busnes nad yw’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth: Ar gyfer Lloegr, mae angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) 2001.

Ar gyfer yr Alban:
Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Storio Olew) (Yr Alban) 2006 fydd yn gymwys i storio olew at ddefnydd amaethyddol.

Ar gyfer Gogledd Iwerddon:
Os mai darparu gwres neu bŵer ar gyfer gwaith amaethyddol yw diben eich man storio olew, bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Gogledd Iwerddon) 2003.

Ar gyfer Cymru:
Os ydych yn storio olew am unrhyw bwrpas ar fferm, bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016.

Storio olew gwastraff a’i waredu ar gyfer busnes

Tybir bod tanwyddau olew mwynol gwastraff, ireidiau a chynhyrchion perthynol yn wastraff peryglus a chyfrifoldeb y Llywodraethau datganoledig yw rheoli’r rhain yn rheoliadol.

Rhoddir cyngor cyffredinol ar storio olew Gwastraff Peryglus a’i symud wedyn i’w adfer neu ei waredu yn https://www.gov.uk/dispose-hazardous-waste/overview.

Mae canllawiau mwy penodol ar storio olew gwastraff ar gyfer ffrydiau masnachol a busnes ar gael yn https://www.gov.uk/managing-your-waste-an-overview/storage.

Ar gyfer Lloegr:
Os ydych yn storio olewau synthetig neu lysiau gwastraff rhaid i chi ddilyn Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Lloegr) 2001.

Os ydych yn storio olewau mwynol gwastraff rhaid i chi ddilyn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2010.

Ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon:
Rhaid i chi ddilyn Rheoliadau Storio Olew y briod wlad ar gyfer pob olew gwastraff.

Ar gyfer Cymru:
Yn ogystal i’r Rheoliadau ar storio olew, mae rhaid i chi ddilyn  Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2010.

Gwaredu hen olew modur

Os oes gennych ychydig o hen olew modur yn eich cartref y mae angen i chi ei waredu ac rydych yn preswylio yn y DU, defnyddiwch y llinell Banc Olew i ddod o hyd i’ch safle banc olew agosaf yn y DU i waredu eich hen olew injan mewn ffordd gyfrifol.

Gwaredu hen olew coginio

Ni ddylech byth waredu unrhyw olew coginio drwy ei arllwys i lawr draeniau dŵr arwyneb, neu i mewn i’r garthffos fudr heb gymeradwyaeth eich cwmni dŵr lleol ymlaen llaw.

Mae’r ffordd y gwaredir olew coginio yn amrywio, yn dibynnu ar b’un a gafodd yr olew ei gynhyrchu ar safle domestig neu fasnachol.

Gwaredu olew masnachol

Ni ddylech waredu hen olew coginio o safleoedd masnachol gyda gwastraff cyffredinol. Dylech storio’r olew ar wahân i fathau eraill o wastraff mewn cynhwysydd addas. Dylai olew coginio gwastraff masnachol gael ei gasglu gan gludwr gwastraff neu os ydych yn symud eich olew gwastraff eich hun rhaid i chi ddilyn deddfwriaeth gwastraff.

Ar gyfer Lloegr:

Ar gyfer yr Alban:

Ar gyfer Gogledd Iwerddon:

Ar gyfer Cymru:

Gwaredu olew domestig

Fel deiliad tŷ, efallai y gallwch waredu eich olew coginio gwastraff gyda’ch gwastraff cartref arferol. Holwch eich awdurdod lleol i weld a yw’n derbyn y math hwn o wastraff. Gall olew coginio gwastraff gael ei drwytho mewn sbwriel cartref arferol neu ei roi mewn cynwysyddion plastig cadarn.

Mae gan rai safleoedd amwynder dinesig y cyfleuster i dderbyn olew coginio gwastraff. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a oes gan eich safle lleol y cyfleuster hwn.