Cysylltwch â ni
Os oes gennych ymholiad ynghylch olew, holwch pa aelod o’r Ymgyrch Gofal am Olew sydd yn y sefyllfa orau i ymateb iddo.
Rheoleiddwyr amgylcheddol y DU
Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio i greu lleoedd gwell i bobl a bywyd gwyllt, a chefnogi datblygiad cynaliadwy yn Lloegr. Mae ein gwaith yn cynnwys rheoleiddio prif ddiwydiannau a gwastraff, trin tir wedi’i halogi, sicrhau ansawdd dŵr ac adnoddau a rheoli’r risg o lifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr, aberoedd a’r môr.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Lloegr) 2001 a Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol (Lloegr) 2010.
Asiantaeth yr Amgylchedd ar-lein
Ymholiadau:
Ffôn: 03708 506 506 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm GMT)
Ebost: enquiries@environment-agency.gov.uk
Minicom (ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw): 03702 422 549
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a ffurfiwyd ym mis Ebrill 2013, ac mae’n gyfrifol am ymgymryd â swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Ein diben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.
CNC sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol (Cymru) 2010.
Ymholiadau:
Ffôn: 0300 065 3000 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm)
Ebost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mincom: 03702 422 549
Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA)
Amcan strategol NIEA yw creu ffyniant a lles drwy ragoriaeth Amgylcheddol a Threftadaeth.
NIEA sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Rheoli Llygredd (Storio Olew) (Gogledd Iwerddon) 2010.
Ymholiadau:
Ffôn: 0845 302 0008
Ebost: nieainfo@doeni.gov.uk
Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA)
Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban (SEPA) yw rheoleiddiwr amgylcheddol yr Alban. Ein nod yw diogelu a gwella’r amgylchedd, gan gynnwys rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Rydym hefyd yn cyfrannu at wella iechyd a lles pobl yn yr Alban a chyflawni twf economaidd cynaliadwy.
SEPA sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Storio Olew) (Yr Alban) 2006. Bob blwyddyn yn yr Alban cofnodir cannoedd o ddigwyddiadau yn ymwneud â llygredd dŵr a achosir gan olew, y mae llawer ohonynt oherwydd dull storio gwael. Cyhoeddwyd Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Storio Olew) (Yr Alban) 2006 i wella’r dull o storio olew a thrwy hynny leihau’r risg o lygredd dŵr.
Ymholiadau:
Ffôn: 03000 99 66 99 (gwasanaeth 24 awr)
Ebost:
Cyrff proffesiynol
Sefydliad Ynni
Y Sefydliad Ynni yw’r corff proffesiynol ar gyfer y diwydiant ynni, sy’n darparu arfer da a phroffesiynoldeb ar draws y sector cyfan. Mae’r Sefydliad Ynni yn gwasanaethu cymdeithas gydag annibyniaeth, proffesiynoldeb ac arbenigedd helaeth ym maes ynni.
Ymholiadau:
Ffôn: 0207 467 7100
Ebost: info@energyinst.org
Cymdeithasau masnach
BSIF fel aelodau o’r Ymgyrch Gofal am Olew
Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain (BSIF) yw’r brif gymdeithas ar gyfer y Gyfarwyddeb Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) ac fe’i cydnabyddir fel Awdurdod Cymwys gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae gan y BSIF gysylltiadau gweithredol â llawer o adrannau’r llywodraeth, dros 130 o Gyrff Masnach cynrychioliadol a grŵp aelodau, ‘Spill containment and control group’ sy’n canolbwyntio’n benodol ar reoli a chynnwys olewon a chemegion yn yr amgylchedd.
Heddiw, mae’r BSIF wedi’i sefydlu’n gadarn fel prif lais annibynnol y diwydiant diogelwch galwedigaethol a diogelwch amgylcheddol, gan helpu i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth a rhoi ffynhonnell o wybodaeth awdurdodol i’r diwydiant am ystod o faterion yn ymwneud â diogelwch yn y gweithle, tra’n cynrychioli anghenion ei aelodau.
Ymholiadau:
Ffôn: 01442 248 744
Ebost: enquiries@bsif.co.uk
Ffederasiwn Cyflenwyr Petrolewm (FPS)
FPS Limited yw’r gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant dosbarthu olew a buddiannau ategol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’n rhoi llais cyfunol i aelodau ar ran y diwydiant ar lefel genedlaethol, gwasanaethau i helpu aelodau i sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd gorau i’w busnes ac mae’n hyrwyddo arfer gorau yn y diwydiant.
Mae’r FPS yn cynnig cymorth a llais i’r dosbarthwr olew ar lefel y llywodraeth er mwyn ceisio sicrhau bargen deg i’r diwydiant yn ogystal â galluogi dosbarthwyr i gwrdd a thrafod materion cyfredol. Ac mae’n annog y diwydiant i hunanreoleiddio drwy wella safonau ac arfer gorau.
Ymholiadau:
Ffôn: 0121 767 1321
Ebost: office@fpsonline.co.uk
Cymdeithas Dechnegol Llosgi Olew (Oftec)
Ers ei sefydlu yn 1991, mae Oftec wedi bod yn hyrwyddo’r safonau proffesiynol uchaf yn y diwydiant gwresogi a choginio drwy losgi olew yn y DU ac yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Drwy ei gweithgarwch fel cymdeithas fasnach, mae OFTEC wedi sefydlu cysylltiadau ag asiantaethau’r llywodraeth, darparwyr hyfforddiant, a gweithgynhyrchwyr offer llosgi olew, tanciau storio olew, a chyfarpar cyflenwi. Yn ogystal â chynnig canllawiau rheoliadol ac arfer gorau cynhwysfawr i weithwyr systemau gwresogi olew proffesiynol hyd at y defnyddwyr terfynol, mae OFTEC hefyd yn gweithredu ‘Cynllun Unigolyn Cymwys’ er budd gosodwyr systemau gwres yng Nghymru a Lloegr.
Ymholiadau:
Ffôn: 0845 65 85 080
Ebost: enquiries@oftec.org ar gyfer ymholiadau technegol – ceisiwch fod mor benodol â phosibl ynghylch eich ymholiad (ee cynnwys enw’r model).
Cymdeithas Ireidiau’r Deyrnas Unedig (UKLA)
Mae Cymdeithas Ireidiau’r DU yn cynrychioli buddiannau aelod-gwmnïau yma a thramor.
Mae’r UKLA, sy’n cynrychioli’r rhan fwyaf o Ddiwydiant Ireidiau’r DU, yn ymwneud â chymdeithasau masnach eraill, fel UEIL, ORA, UKPIA ac ati, ar faterion sy’n effeithio ar y diwydiant, drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chynrychiolaethau a thrwy lobïo i Lywodraethau’r DU ac Ewrop ac awdurdodau’r diwydiant.
Yn ogystal â’n rôl a’n gweithgarwch cynrychioli craidd, rydym hefyd yn darparu digwyddiadau rhwydweithio’r diwydiant i’n haelodau a chyfle i rannu gwybodaeth, drwy hyfforddiant a chysylltiadau ar ddatblygiadau a deddfwriaeth y diwydiant.
Ymholiadau:
Ffôn: 01442 875922
Ebost: enquiries@ukla.org.uk
Cymdeithas Ailgylchu Olew (ORA)
Mae’r ORA yn gwasanaethu fel corff masnach y DU sy’n cysylltu cynhyrchwyr olew mwynol, y defnyddwyr sy’n cynhyrchu olew gwastraff a ffrydiau gwastraff perthynol, deddfwyr, rheoleiddwyr, a’r cwmnïau casglu a phrosesu sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’i haelodaeth.
Mae ein gweithgarwch yn y sector yn rhan o’r diwydiant gwastraff peryglus sy’n gweithio mewn matrics o Reoleiddio Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol cymhleth. Mae ganddi gysylltiadau â mathau perthnasol eraill o ddeddfwriaeth e.e. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (lle mae ystyried gwastraff yn elfen allweddol o faterion trwyddedu) ac ar gyfer y ddeddfwriaeth gemegol ddiweddaraf sy’n sail i’n gweithrediadau adfer. Mae allbynnau ei haelod-gwmnïau yn cynnwys olewau cyffredin wedi’u hadfer i’w hailddefnyddio fel deunyddiau cymysgu ireidiau ac amrywiaeth o danwyddau diwydiannol.
Ymholiadau:
Ffôn: (0)1279 814035
Ebost: OilRecyclingAsso@aol.com
Ffederasiwn Gosodwyr a Chynnal a Chadw Cyfarpar Petrolewm (PEIMF)
Mae gan y PEIMF aelodaeth sy’n cynnwys y cwmnïau hynny sy’n darparu gwasanaethau contractio ym maes gosod a chynnal a chadw cyfarpar tanwydd. Mae’n cyfrannu at waith Paneli Adrannau’r Llywodraeth a’r Diwydiant sy’n llunio canllawiau, yn pennu safonau ac yn gweithredu Cyfarwyddebau Ewropeaidd. Mae’n cyhoeddi cyhoeddiad cyfnodol o’r enw ‘Insite’ sy’n cynnwys erthyglau o natur dechnegol ac mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am newidiadau mewn deddfwriaeth a gwybodaeth am y farchnad
Ymholiadau:
Ffôn: 01474 321 999
Cymdeithas Manwerthwyr Petrol (PRA)
Mae’r PRA yn cynrychioli buddiannau sector annibynnol y Diwydiant Petrolewm Manwerthu. Mae’n gofalu am fuddiannau aelodau drwy roi sylwadau i’r Llywodraeth a’i hadrannau ac asiantaethau ar yr holl faterion sy’n ymwneud â manwerthu tanwydd gan gynnwys deddfwriaeth, iechyd a diogelwch, diogelwch amgylcheddol, hyfforddiant ac ati. Mae hefyd yn darparu cymorth a chyngor unigol i aelodau. Mae’n cynnal ymchwil drwy ei Phwyllgor Technegol ac yn paratoi canllawiau ar faterion technegol. Mae hefyd yn cyfrannu at Bwyllgorau’r Diwydiant.
Ymholiadau:
Ffôn: 0845 305 4230
Ebost: enquiries@rmif.co.uk
Cymdeithas UK Spill
Mae Cymdeithas UK Spill yn gymdeithas fasnach ddielw ar gyfer diwydiant colli olew y DU. Mae’r aelodau’n cynrychioli pob agwedd ar ddiwydiant y DU sy’n ymateb i olew a gollwyd ac yn ei lanhau, gan gynnwys, nid yn unig ddarparwyr blaenllaw ym maes technoleg weithgynhyrchu, gwasanaethau ymateb ac ymgynghoriaethau, ond hefyd gwmnïau llai, sefydliadau academaidd ac ymchwil a hefyd unigolion sy’n gofidio am effeithiau olew a gollwyd.
Mae gan aelodau Cymdeithas UKSpill enw da am gynnal safonau o’r radd flaenaf o ran Atal, Paratoi, Adfer ac Ymateb i Olew a Gollwyd.
Mae Cymdeithas UKSpill hefyd yn rheoli Cynllun Achredu Contractwyr Colli Olew y DU, yn cynnwys Hyfforddiant Cymeradwy ar gyfer Cyrsiau Colli Olew Sylfaenol ac mae’n aelod o’r Fforwm Ymateb i Achosion yn ymwneud ag Olew yn y DU, sy’n cefnogi’r diwydiant olew a nwy ar y môr yn y DU.
Ymholiadau:
Ffôn: 0845 625 9890
Ebost: info@ukspill.org
Y Llywodraeth
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.
Ymholiadau:
Ffôn: Saesneg: 0300 0603 300, Welsh: 0300 0604 400 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5:30am)
Ebost: CustomerHelp@Wales.GSI.Gov.UK
Busnesau Olew
OHES Environmental
Mae OHES yn ymgynghoriaeth amgylcheddol amlddisgyblaethol sy’n gweithredu ledled y DU ac Iwerddon. Mae OHES, sy’n rhan o sefydliad byd-eang a ystyrir yn un o’r rhai mwyaf moesol yn y byd ac a oedd yn wreiddiol yn ymwneud ag adfer achosion o golli olew tanwydd, bellach yn arweinydd yn y sector rheoli hawliadau amgylcheddol sy’n gweithio gyda chwmnïau petrogemegol ac yswiriant ac aseswyr colledion.
Mae’r busnes wedi ychwanegu nifer o is-adrannau newydd dros y 10 mlynedd diwethaf a bellach caiff ein his-adrannau Tir Halogedig ac Ecoleg eu harwain a’u staffio gan rai o’r ymgynghorwyr gorau a mwyaf profiadol ym marchnad y DU.
Ymholiadau:
Ffôn: 0870 240 3329
Ebost: info@ohes.co.uk
Shell
Mae busnesau Shell yn y DU yn rhan o The Shell Group, grŵp byd-eang o gwmnïau ynni a phetrogemegol. Ein nod yw diwallu anghenion ynni cymdeithas, mewn ffyrdd sy’n hyfyw yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, nawr ac yn y dyfodol.
Mae Shell wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig ers sefydlu Shell Transport and Trading yn 1897. Ni yw’r cwmni rhestredig mwyaf yn y DU a gallwn fodloni 35% o’r galw am nwy yn y DU. Rydym yn cyflogi tua 6,500 o staff medrus a chontractwyr sy’n gwneud cyfraniad mawr i’r DU, nid yn unig drwy gyflenwi ynni a darparu cynhyrchion a gwasanaethau i’n cwsmeriaid, ond hefyd drwy gyflogaeth, refeniw treth a buddsoddiad.