Perchenogion Cychod

Chi, eich cwch a Gofalu am Olew

BoatsFel perchennog cwch neu rywun sy’n hurio neu’n cynnal a chadw cychod, mae angen i chi ofalu am yr olew/tanwydd ar eu bwrdd. Bydd dilyn ein cyngor yn eich helpu i leihau’r risg o achosi llygredd.

Gofalu am Olew ar eich cwch

Gwnewch yn siŵr bod gennych becyn colli olew ar fwrdd y cwch rhag ofn y caiff olew ei golli. Bydd y rhan fwyaf o gyflenwyr neu iardiau cychod yn gwerthu neu’n hurio’r rhain. Bydd pecyn colli olew da yn cynnwys rhai cynhyrchion, dalennau a sanau amsugno olew, bag fel y gellir rhoi’r pethau hyn ynddo ar ôl iddynt gael eu defnyddio, ychydig o bwti selio twll a thaflen gyfarwyddiadau.

Storiwch gynwysyddion olew llawn a gwag yn ddiogel lle na ellir eu dymchwel, eu difrodi na’u dwyn. Cofiwch fod gan gynwysyddion petrol cludadwy ofynion diogelwch penodol (Gweler y Boat Safety Scheme).

Defnyddiwch hambwrdd diferion o dan eich injan a’ch gerflwch, gyda dalennau amsugno olew ynddo, er mwyn helpu i ddal diferion neu ollyngiadau bach.

Os bydd eich injan neu system danwydd yn dechrau gollwng, stopiwch i atgyweirio cyn gynted â phosibl.

Gwirio eich pwll ‘sbydu (bilge)

Defnyddiwch gynnyrch amsugno olew ar gyfer pwll ‘sbydu i amsugno unrhyw olew neu danwydd sydd ynddo.

Gwiriwch eich pwll ‘sbydu cyn i chi bwmpio’r olew allan. Os oes unrhyw olew yn arnofio yno, gwnewch yn siŵr bod eich hidlydd pwll ‘sbydu uniongyrchol yn sownd neu defnyddiwch gynnyrch amsugno olew cyn i chi bwmpio.

Os oes gan eich cwch bwmp pwll ‘sbydu awtomatig, dylech bob amser sicrhau bod gennych gynnyrch amsugno priodol yn y pwll ‘sbydu. Gwiriwch hyn yn gyson a’i ddisodli os bydd angen.

Ail-lenwi

Cyn i chi ail-lenwi gwiriwch bob rhan weledol o’ch tanc a’r pibellau er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da. Edrychwch am ddifrod neu ffitiadau rhydd gan gynnwys y tanc ei hun. Dim ond pan fyddwch yn hapus bod popeth yn gweithio’n iawn y dylech ail-lenwi.

Wrth ail-lenwi, gwnewch yn siŵr nad ydych yn gorlenwi (gadewch ychydig o le ar dop y tanc) a gwnewch yn siŵr nad oes dim yn diferu o’r pwmp hefyd. Rhowch y cap llenwi yn ôl yn sownd.

Os ydych yn llenwi cynwysyddion cludadwy, llenwch hwy ymhell oddi wrth ymyl y dŵr a chofiwch sicrhau bod eich pecyn colli olew wrth law. Sicrhewch fod y cynwysyddion yn addas i storio’r tanwydd neu’r olew rydych yn ei ddefnyddio, eu bod mewn cyflwr da a bod ganddynt gaead sy’n cau’n sownd.

Gwaredu unrhyw olew a chynhyrchion olew yn ddiogel

Os ydych yn gwasanaethu eich cwch eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu unrhyw hen olew mewn cynhwysydd diddifrod.

Cadwch yr hen olew draw oddi wrth y dŵr a’i waredu yn gywir cyn gynted â phosibl. Edrychwch ar y wefan banc olew yn www.oilbankline.org.uk, ffoniwch 03708 506 506 (cyfradd galwadau genedlaethol) i gael eich safle gwaredu agosaf, neu cysylltwch â’ch swyddog ailgylchu yn yr awdurdod lleol.

Rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd amsugno a ddefnyddiwyd i lanhau olew/tanwydd mewn cynhwysydd priodol, ac mae gan y rhan fwyaf o iardiau cychod a marinas gynhwysydd gwastraff peryglus y gallwch ei ddefnyddio.

Os bydd olew wedi cael ei golli: pwyntiau i’w cofio

  1. Os ydych mewn dŵr llonydd neu ddŵr sy’n symud yn araf a gallwch gyrraedd yr olew a gollwyd yn ddiogel, ceisiwch ddefnyddio cynhyrchion amsugno olew o’ch pecyn colli olew er mwyn cael gwared arno, ond gwnewch yn siŵr nad ydych yn gadael iddynt arnofio i ffwrdd gan greu sbwriel. (Clymwch gortyn i gornel y cynnyrch amsugno er mwyn helpu i ailafael arno)
  2. Os bydd olew neu danwydd yn cael ei golli ac ni allwch ddelio ag ef heb beryglu eich hun, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau/llygredd genedlaethol 0800 80 70 60 cyn gynted â phosibl. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.
  3. Os caiff olew ei golli mewn harbwr, dywedwch wrth yr harbwrfeistr.
  4. Peidiwch â chymysgu glanedydd â’r olew, gan y bydd hyn yn gwneud y llygredd yn waeth gan fod y glanedydd ei hun yn llygrydd.

Cofiwch nad yw olew a dŵr yn cymysgu – helpwch ni i’w cadw ar wahân