Gofalu am eich olew

Mae olew yn werthfawr; sicrhewch na fyddwch yn gorfod talu amdano ddwywaith. Trwy ofalu amdano’n briodol gallwch amddiffyn eich waled a’r amgylchedd.

Os ydych yn defnyddio olew i gynhesu eich cartref, yn eich busnes, neu eich cerbyd- eich cyfrifoldeb chi yw gofalu amdano. Rhaid ei storio a’i ddefnyddio’n ddiogel er mwyn gwarchod eich cartref neu fusnes, eich iechyd a’ch diogelwch, ac er mwyn lleihau’r perygl o lygru. Eich cyfrifoldeb chi yw gwaredu olew yn ddiogel a chyfreithlon.

Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad yw’ch olew yn llygru. Gallwch gael eich erlid os byddwch yn methu â chyrraedd gofyniadau lleiaf deddfwriaeth storio olew, neu os bydd eich olew chi’n llygru afon, nant, llyn, neu’r ddaear. Gall hyn fod yn gostus iawn i’w lanhau, a gallai ddifrodi adeiladau yn ogystal â’r amgylchedd.

Storfeydd Olew

Os ydych yn storio olew mewn tanc, cynhwysydd swmp canolradd (IBC), casgen, neu gynhwysydd bychan, rhaid i chi ddeall pa fath o olew sydd gennych er mwyn gallu ei gadw’n ddiogel.

Mae ein canllaw ‘Dod i adnabod eich tanc olew’ yn esbonio cyfarpar arferol tanciau olew, a’r dulliau o’u cynnal.

Deall Gofal Olew

Mae gofalu am olew yn mynd y tu hwnt i’r gofynion storio cyfreithlon – ond mae’n fan da i gychwyn.

Trwy ofalu am eich olew pan fydd yn eich cyrraedd, yn cael ei storio, ei ddefnyddio, a’i waredu, gallwch arbed arian a lleihau’r tebygolrwydd o lygru gyda’ch olew.

Cymerwch gip ar ein cyngor: