Effaith colli olew

impacts-of-oilGall olew a gollir lygru nentydd, afonydd ac, os bydd yn ymdreiddio drwy’r pridd a’r graig, ddŵr daear.

Yn y DU daw ein cyflenwad o ddŵr yfed o afonydd a dŵr daear. Rhaid i ni ddiogelu’r ddau rhag llygredd.

Mae olew yn wenwynig ac yn niweidiol i blanhigion ac anifeiliaid ac yn fygythiad i’w cynefinoedd.

Effaith amgylcheddol olew

Dros y pum mlynedd diwethaf mae olew wedi bod yn un o dri llygrydd mwyaf y DU.

Mae llawer o ddraeniau yn arwain yn uniongyrchol at afonydd, nentydd neu lynnoedd, ac os gadewch i olew fynd i mewn i ddraen, gall gael yr un effaith â phe baech yn ei arllwys yn uniongyrchol i mewn i gwrs dŵr.

Gall 1 litr o olew halogi 1 filiwn o litrau o ddŵr.

Gall llygredd olew gael effaith ddinistriol ar yr amgylchedd dŵr. Mae’n lledaenu dros yr arwyneb mewn haenen denau sy’n atal ocsigen rhag cyrraedd y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yn y dŵr. Mae llygredd olew yn:

  • niweidio anifeiliaid a phryfed
  • atal ffotosynthesis mewn planhigion
  • tarfu ar y gadwyn fwyd
  • cymryd amser hir i adfer

Mae adar hela yn arbennig o ddiamddiffyn, oherwydd niwed i’w plu sy’n golygu nad ydynt yn gallu dal dŵr mwyach a thrwy fwyta’r olew wrth iddynt lyfnu’r plu. Gall effeithio hefyd ar famaliaid fel llygod y dŵr.

Yn y tir a’r pridd mae olew yn gorchuddio neu’n lladd yr organeddau sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y cydbwysedd amgylcheddol.

Effaith Ddynol

impacts-of-oil2

Nid effaith ar fywyd gwyllt yn unig a gaiff olew; gall olew sy’n halogi dŵr ei wneud yn yn anaddas at ddibenion dyfrhau ac amharu’n andwyol ar y modd y mae gwaith trin dŵr yn gweithio.

Gall olew sy’n cael ei golli wneud ffynonellau dŵr yfed yn anaddas i’w defnyddio ac mae datrys y broblem yn gostus iawn.

Os caiff olew ei golli yn agos at adeilad gall yr anweddau olew fynd i mewn i’r adeilad a’i wneud yn anaddas i bobl fyw ynddo. Gallai hyn olygu nad oes modd defnyddio’r adeilad nes bod gwaith adfer costus wedi ei gwblhau, neu mewn amgylchiadau eithafol efallai y bydd yn rhaid dymchwel yr adeilad. Os mai eich cartref neu fan gwaith ydyw, gall gael effaith ddinistriol.

Cyngor ar yswiriant

Mae glanhau olew a gollwyd yn waith anodd a gall fod yn gostus; gall gostio miloedd o bunnoedd. Gall delio ag olew sydd wedi cael ei golli greu llawer iawn o anghyfleustra i chi ac i’ch cymdogion, felly mae sicrhau bod gennych yswiriant yn bwysig. Gwnewch yn siŵr bod eich polisi yn cynnwys:

  • cost prynu olew newydd yn lle’r olew a gollwyd a phrynu tanc storio newydd efallai
  • costau glanhau’r olew yn eich eiddo eich hun
  • terfyn atebolrwydd digon uchel i’ch diogelu os effeithir ar dir cyfagos a/neu dyllau turio
  • y gwaith glanhau amgylcheddol os collir olew ar ddamwain

Beth allai ddigwydd pe na baech yn gofalu am eich olew.

Mae achosi llygredd yn erbyn y gyfraith felly bydd yn rhaid i chi gymryd camau i lanhau unrhyw achosion difrifol o olew sy’n cael ei golli neu sy’n gollwng. Efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn talu os bydd yr olew wedi bod yn gollwng ers peth amser neu os cafodd ei achosi am nad oeddech wedi dilyn canllawiau arfer da. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio eich tanc a’ch pibellau yn rheolaidd ac yn monitro faint o olew a ddefnyddiwch fel eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau sydyn a chymryd camau i fynd i’r afael â hyn.