Cynnal a chadw cerbydau modur eich hun

wasteoil_bank6Os ydych yn cynnal a chadw eich car, fan neu feic modur eich hun mae angen i chi sicrhau eich bod yn gofalu am yr hen olew pan fyddwch yn ei newid fel nad yw’n llygru eich amgylchedd lleol.

Os ydych yn cynnal a chadw cerbydau modur fel eich busnes yna nid yw’r cyngor hwn yn gymwys; rhaid i chi ddefnyddio contractwr gwastraff cymeradwy, cofrestredig/trwyddedig i waredu’r hen olew sydd gennych.

Newid eich olew yn ddiogel

Sicrhewch fod gennych becyn colli olew wrth law; gallwch brynu un gan gyflenwyr rhannau ceir, cadwyni DIY mawr neu ar-lein. Defnyddiwch hambwrdd diferion neu swmpflwch pwrpasol i gadw’r olew ynddo wrth i chi ei ddraenio.

Storiwch eich hen olew mewn cynhwysydd priodol nes y gallwch ei waredu. Gwnewch yn siŵr bod gan y cynhwysydd gaead diogel i leihau’r risg y caiff olew ei golli wrth i chi ei gludo i fanc ailgylchu olew.

Gwaredu eich olew eich ddiogel

Peidiwch ag arllwys olew i lawr y draen nac ar y tir; byddech yn achosi llygredd ac yn torri’r gyfraith. Os canfyddir eich bod wedi achosi llygredd, gallech gael eich erlyn.

Ewch â’ch hen olew i fanc olew i’w waredu’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

Er mwyn dod o hyd i’ch banc olew agosaf, ewch i’r wefan banc olew yn www.oilbankline.org.uk, ffoniwch 03708 506 506 neu cysylltwch â’ch swyddog ailgylchu yn eich awdurdod lleol.

Peidiwch â chymysgu hen olew â hylif breciau neu wrthrewydd. Gwaredwch hylif gwastraff arall o’ch cerbyd ar wahân mewn safleoedd amwynder lleol.

Os bydd olew wedi cael ei golli: 3 phwynt i’w cofio

  1. Peidiwch byth â thaflu, golchi na chwistrellu olew i lawr draen neu gwter; gwaredwch yr olew yn gywir.
  2. Peidiwch â chymysgu glanedydd ag olew gan fod hyn yn gwneud y llygredd yn waeth.
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn atal olew rhag mynd i mewn i ddraeniau drwy ddefnyddio pecyn colli olew neu hyd yn oed dywod neu bridd. Rhowch unrhyw ddeunydd halogedig mewn bag a’i waredu yn yr un modd â gwastraff sydd wedi’i halogi ag olew.

Os ydych am gael gyngor ar olew sydd wedi cael ei golli, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau/llygredd genedlaethol 0800 80 70 60. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.

Cofiwch nad yw olew a dŵr yn cymysgu – helpwch ni i’w cadw ar wahân.