Pysgod Melyn

Mae’r cynllun Pysgod Melyn yn gwella ymwybyddiaeth o darddiad llygredd dŵr, yn ogystal â safon dŵr ein nentydd, afonydd, a’n llynnoedd.

Mae’r dull ‘Pysgod Melyn’ yn cael ei ddefnyddio dros holl y byd i atgoffa pobl bod angen amddiffyn yr amgylchedd trwy osgoi llygredd. Mae gosod symbol pysgodyn melyn ger draeniau dŵr glaw yn atgoffa pobl y gallent arwain yn uniongyrchol i’r nant, afon, llyn, neu draeth agosaf- gan greu perygl o lygru a niweidio bywyd gwyllt.

Bydd ein Llawlyfr Canllawiau ar gyfer Pysgod Melyn  yn  eich helpu i drefnu prosiect Pysgod Melyn lleol.

Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen adborth gan gynnwys manylion eich prosiect, er mwyn i ni eich ychwanegu i’r Map Pysgod Melyn.

Os ydych yng Nghymru, defnyddiwch wefan Cadwch Gymru’n Daclus.