Cael tanc olew newydd i’ch cartref: pethau i feddwl amdanynt

Os ydych chi eisiau prynu tanc olew newydd, neu adnewyddu eich tanc presennol, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio a’r gyfraith, ac mae angen i chi ystyried pethau ymarferol hefyd. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu chi i ddeall beth ddylech chi chwilio amdano a gofyn amdano pan fyddwch yn cael eich dyfynbris am osod y tanc.

Mae angen i chi ystyried:

  • ble fyddwch yn rhoi eich tanc
  • y math o danc y mae arnoch ei angen
  • mynediad i chi a’r gyrrwr lori sy’n llenwi’r tanc
  • gosod y tanc yn gywir er mwyn cynnal gwarant y tanc a lleihau’r risg o dân
  • tynnu eich hen danc a’r pibelli
  • gofynion eich cwmni yswiriant

Rydym yn eich argymell i gael cyngor gosodwr tanciau cymwys. Gallan nhw eich helpu chi i gydymffurfio i ddeddfwriaeth a gwneud yn siŵr fod y tanc yn addas i’ch anghenion chi. Byddan nhw’n chwilio am lif
dŵr cyfagos, cloriau tyllau caead rhydd, ffynhonnau, tyllau turio, lefel trwythiad uchel neu ardaloedd dŵr daear sensitif. Gallai unrhyw un o’r rhain effeithio ar ble gallwch roi’ch tanc a gallai olygu bod angen ail gynhwysydd arnoch er mwyn ufuddhau i’r gyfraith. Gall person cymwys roi gwasanaeth gwerth am arian oherwydd byddan nhw’n eich helpu chi i osgoi problemau posibl neu osod tanc yn anghyfreithlon.

Fel arfer, mae gweithredwyr y Cynllun Person Cymwys yn cynnig chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ffôn ar eich cyfer. Gellir dod o hyd i weithredwyr y Cynllun ar-lein ar y Competent Persons Register.

Ble i osod eich tanc

Gall effaith gollyngiad olew heb ei ganfod, yn enwedig o danc neu bibelli tanddaearol fod yn ddifrifol ar eich eiddo, eich iechyd ac ar yr amgylchedd. Mae angen i chi feddwl yn ofalus am y lle gorau i osod eich tanc a gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu lleol.

Rydym yn argymell fod  eich tanc yn cael ei osod y tu allan, uwchben y tir gydag amddiffynfa ychwanegol o’i gwmpas. Lleolwch eich tanc mewn safle fydd yn lleihau’r risg o lygredd ac yn cynyddu ei diogelwch.  Ystyriwch ei roi yng ngolwg ystafell a ddefnyddir yn aml er mwyn i chi allu cadw llygad arno. Mae dwyn o danciau olew yn mynd yn fwy cyffredin.

Nid ydym yn argymell gosod tanciau storio olew dan y ddaear. Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio i osod tanc storio olew dan y ddaear. Os ydych chi’n credu mai dyma yw’ch unig ddewis, cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol i gael eu cyngor nhw cyn archebu neu osod tanc er mwyn trafod ydy hyn yn bosibl, yn ddiogel neu’n gyfreithlon. Hwyrach fod cyfyngiadau ar ble gallwch osod tanciau tanddaearol mewn ardaloedd dŵr daear sensitif.

Gellir gosod tanciau olew y tu mewn i adeilad, ond bydd angen gwneud yn siŵr fod amddiffynfa bellach o’i gwmpas. Fe allai hyn  fod yn ofyniad cyfreithiol. Dylid cadw’r tanc mewn siambr sy’n gwrthsefyll tân ar y lefel isaf bosibl yn yr adeilad. Os oes gennych, neu os ydych chi’n ystyried y math hwn o osod, gofynnwch i osodwr tanc cymwys am gyngor.

Dylech wneud yn siŵr fod y lleoliad rydych chi’n bwriadu gosod eich tanc yn rhydd o unrhyw berygl llifogydd . Mae risg uchel o ddifrod i danciau olew mewn lleoliad sy’n cael llifogydd. Mae rhagor o gyngor ar gael yn ein canllawiau llifogydd.

Pa fath o danc sydd ei angen arnoch?

Tanciau uwchlaw’r ddaear

Dewiswch danc sydd wedi’i gynhyrchu i safon berthnasol a gydnabyddir yn Ewrop, Prydain neu gan y diwydiant. Mae’r rhain yn dangos bod tanc wedi’i gynhyrchu a’i brofi i safonau ansawdd llym. Dylid marcio tanciau olew yn glir gyda gallu llenwi penodol (uchafswm) er mwyn cynorthwyo gydag archebu tanwydd. Rhaid i’r holl danciau newydd ddangos gwybodaeth ynghylch pa gamau i’w cymryd os oes olew yn gollwng. Os ydy hwn ar goll o’ch tanc, gallwch gael sticer gennym.

Tanciau olew domestig dan y ddaear

Dim ond tanciau sydd wedi’u cynllunio’n benodol a’u hadeiladu at ddefnydd tanddaearol ddylai gael eu claddu’n rhannol neu’n gyfan gwbl dan y ddaear. Mae gwneuthuriad arbennig yn galluogi tanciau tanddaearol i wrthsefyll y pwysau a roddir ar ochr allanol y tanc pan fydd yn wag. Rydym yn eich argymell i geisio cyngor arbenigol os ydych chi’n bwriadu gosod tanc tanddaearol. Sicrhewch fod gosodwr eich tanc yn dilyn cyfarwyddiadau’r cwmni sydd wedi gwneud y tanc i osod tanc olew domestig tanddaearol, yn enwedig o ran yr uchafswm dyfnder, swm y deunydd llenwi i mewn a’r concrid. Dylid cau’r tanciau mewn concrid a’u lleoli o leiaf ddau fetr i ffwrdd o unrhyw ardal lle mae cerbydau yn symud neu’n parcio.

Tanciau ail law

Os ydych chi’n ystyried prynu tanc ail law, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ei arolygu gan berson cymwys cyn i chi ei osod. Mae perygl y gallai defnydd blaenorol a symud y tanc cael effaith niweidiol ar y cynhwysydd. Gallai hyn gynnwys cyrydiad, effeithiau heneiddio golau haul, ddifrod i gysylltiadau peipiau neu seliau a ffitiadau. Er ei bod yn ymddangos bod y difrod hwn yn fach gall arwain at broblemau hirdymor a chi sy’n gyfrifol am yr olew yr ydych yn ei storio yn eich cartref; gweler ein tudalen ar effeithiau gollyngiadau olew a pheth mae hyn yn gallu golygu.

Peidiwch byth ā phrynu tanc sy’n amlwg allan o’i siâp arferol, neu danciau metel gyda hoel rhwyd a phlastig sy’n weladwy wedi gwynnu, cracio neu ddechrau hollti.

Mynediad i’ch tanc

Bydd angen i chi a’ch gyrrwr cludiant gael mynediad clir i’ch tanc ac o’i amgylch er mwyn i chi allu gwirio eich tanc a gwneud yn siŵr fod eich tanc yn cael ei lenwi’n ddiogel.

Meddyliwch am:

  • ble mae’r tanc, gwnewch yn siŵr fod lle o gwmpas y tanc er mwyn i chi allu ei archwilio’n weledol ac er mwyn i’r gyrrwr allu sefyll yn ymyl y tanc pan fydd yn cael ei lenwi
  • ble mae’r pwynt llenwi, ydy’r gyrrwr yn gallu ei gyrraedd yn hwylus, heb ddringo dros rwystrau na drwy gwrych
  • ble mae’r tancer olew yn parcio

Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch i’ch cwmni cyflenwi edrych ar eich safle.

Gosod yn gywir

Gwneud yn siŵr fod y sail ar gyfer eich  tanc olew yn iawn

Mae’r Rheoliadau Adeiladu’n gofyn i danciau olew gael eu gosod ar sail lefel a sefydlog sy’n ymestyn i isafswm o 300mm heibio i bwynt lletaf y tanc i bob cyfeiriad. Bydd hyn yn helpu atal tân rhag lledu i’ch tanc o safleoedd neu adeiladau gerllaw.

Gellir adeiladu’r sail o slab trwchus o 100mm o goncrid neu slabiau palmant sy’n 50 mm o drwch o leiaf. Yn y ddau achos, rhaid i’r sail gael ei hadeiladu ar sylfaen gadarn sy’n addas ar gyfer y tir.

Tanciau wedi’u codi

Lle mae angen codi tanciau olew, er enghraifft, er mwyn gosod popty amlbwrpas, mae’n bwysig bod y tanc yn cael ei osod yn gywir a bod cyfarwyddiadau gosod yn cael eu dilyn. Rhaid cynnal tanciau olew plastic ar draws y sail y tanc i gyd.

Symud eich hen danc a phibelli

Dylid digomisiynu, a gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn gyda’r tanc a’r pibelli. Marciwch yn glir unrhyw danc olew a phibelli nad ydych yn eu defnyddio. Y peth gorau fyddai cael y tanc a’r pibelli wedi’u symud gan rywun proffesiynol cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi eu llenwi mewn camgymeriad ac achosi llygredd. Os na ellir symud y pibelli, yna dylid rhoi cap parhaol arno er mwyn gwneud yn siŵr nad oes neb yn ceisio’i defnyddio. Dylai’r person sy’n gosod y tanc allu tynnu’r hen danc a’r pibelli fel rhan o’r gwaith o osod eich tanc newydd. Cofiwch nodi hyn yn eich contract gwaith.

Gofynion eich cwmni yswiriant

Rydym yn eich cynghori i ddilyn cyngor eich cwmni yswiriant – mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw farn ar leoliad y tanc o ran sut gallai effeithio ar yswiriant yr adeilad a’r cynnwys. Maen nhw gallu rhoi cyngor hefyd ar ddiogelwch y tanc a allai effeithio ar yr hyn yr ydych yn ei dalu.