icon-info

Cyflwyno Gofalu am Olew

Mae Ymgyrch Gofalu am Olew yn fenter ar y cyd rhwng rheoleiddwyr amgylcheddol, cyrff masnach a phroffesiynol a diwydiant y DU.

mwy
icon-user

Gofalu am eich olew

Mae gan yr olew rydych wedi talu amdano werth. Drwy ofalu am eich olew yn gywir byddwch yn diogelu ased gwerthfawr a'r amgylchedd.

mwy

Delio ag olew sydd wedi cael ei golli

Os ydych yn gyfrifol am storio unrhyw olew dylech fod yn barod ar gyfer damwain, olew yn cael ei golli neu'n gollwng. Mae angen i chi wybod beth i'w wneud.

mwy
icon-find

Dod o hyd i'ch banc olew agosaf

Dod o hyd i'ch banc olew agosaf yn y DU a gwaredu eich olew injan gwastraff mewn ffordd gyfrifol.

mwy

Croeso

Mae Ymgyrch Gofalu am Olew yn fenter ar y cyd rhwng rheoleiddwyr amgylcheddol, cyrff masnach a phroffesiynol a’r diwydiant yn y DU. Rydym yn cydweithio i roi cyngor ar arfer da i chi er mwyn eich helpu i ofalu am eich olew yn ddiogel a, phan na fydd ei angen arnoch mwyach, i’w anfon i gael ei ailgylchu neu ei waredu’n ddiogel. Ein nod yw rhoi’r wybodaeth i chi er mwyn deall sut i leihau’r risg amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’ch olew a pham bod hynny’n bwysig.

Yn 2012 hysbyswyd asiantaethau amgylcheddol y DU am fwy na 3300 o ddigwyddiadau yn ymwneud â llygredd olew. Mae hynny bron yn 10 digwyddiad bob dydd. Mae olew’n niweidio’n hamgylchedd, yn lladd planhigion ac anifeiliaid, yn edrych yn hyll a gall gostio miloedd o bunnoedd i’w lanhau.

Os gwelwch olew ar afon, llyn neu nant, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau/llygredd genedlaethol ar 0800 80 70 60 i hysbysu’r awdurdodau cyn gynted â phosibl. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.