Gwiriadau Tanciau Olew cyson

Mae eich olew yn nwydd gwerthfawr ac mae angen i chi ofalu amdano.

Pryd dylwn i wirio’r olew a gaiff ei storio gennyf?

Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar eich tanc o leiaf unwaith y mis a phob tro y byddwch yn archebu olew er mwyn sicrhau nad yw wedi ei ddifrodi ac nad yw’n gollwng.

Beth y dylwn edrych amdano?

Dylech edrych am unrhyw beth ar eich tanc neu o’i amgylch a allai awgrymu bod olew yn debygol o ollwng, neu fod olew wedi cael ei golli i’r amgylchedd. Dylech wneud y canlynol:

  • sicrhau nad oes gormod o lystyfiant o amgylch eich tanc a fyddai’n cuddio cyflwr y tanc
  • cadarnhau nad yw gwaelod y tanc na’r ategion wedi cracio nac ymsuddo
  • sicrhau bod gan y tanc fesurydd cynnwys sy’n gweithio; os oes gan y mesurydd falf gwnewch yn siŵr ei fod ar gau
  • edrych ar yr holl bibellau, falfiau a hidlyddion gweledol i gadarnhau nad oes unrhyw ddifrod nac arwyddion fod olew’n gollwng, megis tamprwydd neu staenio, yn enwedig o amgylch yr uniadau
  • edrych ar y llystyfiant o amgylch y tanc am arwyddion ei fod yn gwywo
  • edrych yn y cynhwysdanc eilaidd (byndiau tanc) am hylif neu sbwriel
  • cadarnhau nad oes gan yr hambyrddau diferion ar gyfer pibellau llenwi o bell unrhyw olew na dŵr ynddynt, darllen y wybodaeth am olew gwastraff i weld sut i waredu unrhyw hylif

 

Craciau ar danc plastig

Os oes gennych danc plastig bydd angen i chi edrych hefyd am:

  • gwynder neu unrhyw graciau a holltau yn y plastig
  • proffil y tanc yn bolio neu’n anffurfio

 

 

 

 

 

 

 

Rhwd a staen olew ar danc metel

Os oes gennych danc metel mae angen i chi edrych hefyd am:

  • arwyddion o rhwd, mannau tyllog neu baent yn pothellu
  • tamprwydd olew ar asiadau a weldiau

 

Os gwelwch unrhyw beth rydych yn poeni yn ei gylch neu sydd wedi newid ers i chi edrych arno y tro diwethaf, dylech ofyn i weithiwr cymwys proffesiynol ym maes gwresogi ag olew am gyngor. Ni ellir atgyweirio tanc olew plastig; os  yw’n dechrau dangos arwyddion ei fod yn dirywio yna mae’n debygol bod angen tanc newydd arnoch chi.

Os bydd eich defnydd o olew yn cynyddu’n annisgwyl, dylech wirio eich tanc a’ch pibellau ar unwaith rhag ofn bod olew’n gollwng. Mae dyfeisiau monitro tanciau ar gael sy’n rhoi rhybudd cynnar fod lefel yr olew wedi gostwng yn sydyn.

Gwiriadau blynyddol

Gwnewch yn siŵr bod eich tanciau storio olew a’ch pibellau cyflenwi olew yn cael eu gwirio gan unigolyn cymwys o leiaf bob blwyddyn; fel arfer ar yr un pryd ag y gwasanaethir eich boeler yn flynyddol.

Ble y gallaf gael rhagor o gyngor?

I gael cyngor cyffredinol ar osod tanciau storio olew ar gyfer gwresogi a chynnal a chadw tanciau olew, cysylltwch ag unigolyn cymwys. Mae gweithredwyr Cynllun Unigolion Cymwys (CUC) yn cynnig cyfleuster chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ffôn. Gellir dod o hyd i weithredwyr CUC ar-lein yn y Gofrestr Unigolion Cymwys.