Tanciau tanwydd – cyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid

Os ydych yn gosod neu’n rhentu eiddo sydd â thanc olew, rhaid ichi wybod pwy sy’n gyfrifol am yr olew a gaiff ei storio ac am unrhyw waith cynnal a chadw.

Dylai’r cytundeb gosod nodi cyfrifoldebau’r landlord a’r tenant. Gallai hyn gynnwys y canlynol.

Ar gyfer y landlord

Fel arfer, y landlord sy’n gyfrifol am y strwythur sy’n storio’r olew, gan sicrhau bod y tanc, y peipiau a’r offer cysylltiedig:

Ar gyfer y tenant

Fel arfer, mae’r tenant yn gyfrifol am y canlynol:

  • hysbysu’r landlord ynghylch unrhyw olew a ollyngir, neu ynghylch gwaith sydd angen ei wneud i gynnal a chadw’r tanc a’r peipiau/offer cysylltiedig
  • yr olew a ddanfonir, gan sicrhau nad oes gormod o olew yn cael ei archebu rhag ofn i’r tanc gael ei orlenwi
  • yswirio gwerth yr olew a gynhwysir yn y tanc