Osgoi Llygredd

Mae sawl ffordd y gall cymunedau, busnesau, a phobl warchod eu hamgylcheddau lleol.

Pan fydd olewau a llygrwyr eraill yn cyrraedd ein hafonydd a’n nentydd, maent yn niweidio’r amgylchedd yn ogystal â’r holl blanhigion ac anifeiliaid sy’n ddibynnol ar y dŵr. Gall yr olew hefyd effeithio ar fwynhad pobl o’r dirwedd, gan effeithio ar iechyd a lles.

Deall Gofal Olew

Mae gofalu am olew yn mynd y tu hwnt i’r gofynion storio cyfreithlon – ond mae’r rheini’n fan cychwynnol da.

Trwy ofalu am eich olew pan fydd yn eich cyrraedd, yn cael ei storio, ei ddefnyddio, a’i waredu, byddwch yn arbed arian ac yn lleihau’r tebygolrwydd o lygru gyda’ch olew.

Cymerwch gipolwg ar ein cyngor: