Delio ag olew sydd wedi cael ei golli

Paratoi i ddelio ag olew sydd wedi cael ei golli

Os ydych yn gyfrifol am storio unrhyw olew dylech fod yn barod ar gyfer damwain, olew yn cael ei golli neu’n gollwng. Mae angen i chi wybod beth i’w wneud.

Bydd bod yn barod yn lleihau’r posibilrwydd o ddigwyddiad a allai achosi llygredd a difrodi eich eiddo. Cadwch becyn colli olew gyda deunyddiau amsugno (cynhyrchion a fydd yn amsugno olew ond nid dŵr) a phyti selio twll wrth ymyl eich man storio olew fel y gallwch gael gafael arno’n gyflym os bydd angen. Gall pecynnau colli olew masnachol a diwydiannol gynnwys eitemau ychwanegol, er enghraifft blocwyr draeniau, a llawer iawn o ddeunydd amsugno.

Delio ag olew sydd wedi cael ei golli

Os bydd olew wedi gollwng, neu wedi cael ei golli, bydd angen i chi ddelio â hynny ar unwaith. Os na wnewch hynny, gallech achosi digwyddiad difrifol o ran llygredd a gall camau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn.

Cymerwch gamau gweithredu:

  • Os gallwch atal llif yr olew, gwnewch hynny. Os oes lle, ac os na chewch olew ar eich croen, rhowch fwced o dan yr olew sy’n gollwng a chaewch y falfiau neu’r tapiau.
  • Defnyddiwch gynnwys eich pecyn colli olew, bagiau tywod neu bridd i amsugno’r olew os yw ar arwyneb caled a’i atal rhag mynd i mewn i afon, nant, cwrs dŵr a draeniau neu ymdreiddio i’r tir.
  • Peidiwch byth â golchi unrhyw olew a gollwyd i mewn i ddraeniau, cwteri neu i mewn i’r tir. Mae’r rhan fwyaf o ddraeniau yn cysylltu â’r cwrs dŵr agosaf a gall olew achosi llygredd difrifol mewn afonydd, nentydd a dŵr daear.
  • Peidiwch byth â defnyddio glanedyddion i lanhau olew a gollwyd; gallech achosi digwyddiad gwaeth o ran llygredd. Mae’r glanedydd ei hun yn llygrydd ac yn cymysu olew yn y dŵr.

Os bydd angen help arnoch:

Peidiwch byth â rhoi eich hun mewn perygl er mwyn glanhau olew a gollwyd. Os na allwch lanhau’r olew a gollwyd eich hun neu os hoffech gael cyngor ar olew a gollwyd, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau/llygredd genedlaethol 0800 80 70 60, mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.

Efallai y byddwch mewn lleoliad sy’n ystyriol o’r amgylchedd lle mae angen ymateb yn gyflym iawn i atal yr amgylchedd lleol a chyflenwadau dŵr yfed dŵr daear cyfagos rhag cael eu llygru’n ddifrifol.

Cysylltwch â’ch cyflenwr tanwydd am gyngor (efallai y bydd yn cynnig gwasanaeth glanhau neu’n gallu argymell ba gamau gweithredu i’w cymryd).

Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant a dywedwch wrthynt fod eich tanc neu bibellau wedi gollwng olew neu wedi colli olew, y gall fod angen i gwmni proffesiynol ddod i’w lanhau ac i adennill cost yr olew a gollwyd gennych.

Diogelu eich hun a’ch eiddo

Os bydd olew a gollwyd wedi mynd i mewn i afon, nant neu ddraeniau neu os na wyddoch ble y mae wedi mynd, yna mae’n debygol y bydd angen help arnoch i’w lanhau.

Os bydd yr olew wedi ymdreiddio i’r pridd/tir, bydd angen i chi gymryd camau cyflym i’w atal rhag ymdreiddio ymhellach i’r tir a chyrraedd sylfeini adeiladau neu gyflenwadau dŵr daear. Bydd angen cwmni proffesiynol arnoch sydd wedi cael hyfforddiant ac achrediad i lanhau olew sydd wedi ymreiddio i’r tir. Gall codi pridd a halogwyd ag olew a’i waredu fod yn gostus iawn; rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl.

Peidiwch â mentro gadael olew sydd wedi cael ei golli; gall ddifrodi sylfeini adeilad a lladd planhigion a bywyd gwyllt.

Tanciau sy’n gollwng

Os dewch o hyd i olew yn gollwng o’ch tanc ceisiwch roi cynhwysydd o dan yr olew sy’n gollwng er mwyn atal rhagor o olew rhag gollwng. Defnyddiwch byti selio twll o’ch pecyn colli olew a’i roi dros y man sy’n gollwng, a gwisgwch fenig rwber neu finyl i ddiogelu eich croen.

Ar gyfer tanciau plastig efallai y byddwch yn gallu atal yr olew rhag gollwng dros dro drwy rwbio bar o sebon ar draws y man sy’n gollwng – gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu eich hun drwy wisgo menig rwber neu finyl.

Ffoniwch am help; dim ond ateb byrdymor i olew sy’n gollwng yw pyti neu sebon. Efallai y bydd angen gwagio eich tanc er mwyn atal eich olew rhag achosi llygredd. Efallai y gall eich cwmni cyflenwi tanwydd neu ddarparwr yswiriant helpu.

Rhoi gwybod am olew a gollwyd

Ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau 0800 80 70 60 (gwasanaeth 24 awr), am ddim, o linellau tir ond efallai y codir ffi os defnyddir ffôn symudol.

Gallwch ddefnyddio’r rhif hwn i roi gwybod am olew sydd wedi cael ei golli, neu ddigwyddiad amgylcheddol arall, ledled y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru ffoniwch 0300 065 3000 (gwasanaeth 24 awr).