Sticeri tanciau Gofalu am Olew

Mae’r Ymgyrch Gofalu am Olew yn cynhyrchu sticeri sydd wedi’u cynllunio i’w rhoi ar bob tanc olew i’ch atgoffa sut i ofalu am eich olew a beth i’w wneud os caiff ei golli.

Ein Sticer tanc olew Domestig

Mae’r sticer yn rhoi gwybodaeth am beth y dylai perchenogion cartrefi ei wneud os caiff olew ei golli o’r tanc. Mae hefyd yn eu hatgoffa i wirio’r tanc yn rheolaidd, ac mae lle i unigolyn cymwys lofnodi’r sticer bob blwyddyn pan fydd y tanc a’r offer gwresogi cysylltiedig wedi cael eu gwirio a’u gwasanaethu.

Ein sticer tanc olew Diwydiannol

Cynllunnir y sticer i’w ddefnyddio’n benodol ar danciau olew diwydiannol. Mae’n cynnwys nodyn atgoffa i staff ynghylch beth i’w wneud os caiff olew ei golli o’r tanc.

Yn bwysig iawn hefyd mae lle arno i ychwanegu enw cyswllt a rhif ffôn ar gyfer yr unigolyn y dylid ei alw os bydd olew’n cael ei golli o’r man storio.

Rydym hefyd yn atgoffa staff y dylent wirio eu tanciau yn rheolaidd a chyn pob cyflenwad o olew.

Unwaith eto, mae lle i unigolyn cymwys lofnodi’r sticer bob blwyddyn pan fydd y tanc a’r cyfarpar neu’r offer gwresogi cysylltiedig wedi cael eu gwirio a’u gwasanaethu.

Ein sticer tanc olew gwastraff

Cynllunnir y sticer i atgoffa rhywun yn glir mai dim ond olew gwastraff a ddylai gael ei roi yn y tanc. Mae hyn yn bwysig o dan ddeddfwriaeth gwastraff gan na ddylai olew gwastraff gael ei gymysgu â mathau eraill o wastraff.

Mae lle i ychwanegu enw cyswllt a rhif ffôn yr unigolyn y dylid ei alw os caiff olew ei golli o’r man storio a nodyn i atgoffa pobl beth i’w wneud os caiff olew ei golli o’r tanc.

Archebu sticer ar gyfer eich tanc

Os hoffech archebu sticeri tanciau olew ar eich cyfer chi neu eich cwmni, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 o unrhyw fan yn y DU, a gallwch ofyn am hyd at bedwar sticer am ddim.

Os hoffech gael pum sticer neu fwy, rydym yn codi tâl am sticeri i dalu costau argraffu a dosbarthu, fel y gallwn barhau i gyflenwi’r sticeri. Mae’r prisiau, gan gynnwys prisiau dosbarthu, fel a ganlyn:

  • cost sticeri tanciau domestig yw 45c yr un +TAW
  • cost sticeri tanciau diwydiannol yw £1.00 yr un +TAW
  • cost sticeri tanciau olew gwastraff yw £1.10 yr un +TAW