Hyfforddiant ar olew a gollwyd i fusnes

oil-spill-trainingMae’n hanfodol eich bod chi a’ch staff yn gwybod beth i’w wneud os bydd olew’n cael ei golli, neu unrhyw gemegyn arall. Mae angen i chi ddeall beth y gallwch ei wneud i atal olew sydd wedi gollwng neu sydd wedi cael ei golli rhag achosi digwyddiad difrifol o ran llygredd.

Cyfarpar

Gwnewch yn siŵr bod gennych becyn colli olew ar y safle sy’n cael ei gadw yn agos at eich man storio olew. Dylai maint eich pecyn gynrychioli faint o olew rydych yn ei storio a beth rydych yn ei ddiogelu rhag achos posibl o golli olew. Os ydych yn agos at nant, afon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu dderbynnydd amgylcheddol arall efallai y bydd angen rhagor o gyfarpar arnoch. Gall cwmnïau sy’n gwerthu cyfarpar rheoli llygredd helpu gyda hyn.

Mae’n hanfodol bod eich staff yn gwybod sut i ddefnyddio cynnwys y pecyn colli olew.

Opsiynau hyfforddi

Bydd hyfforddiant yn sicrhau eich bod chi a’ch staff yn hyderus y gallwch ymateb i achos o golli olew yn ddiogel.

Rydym yn argymell eich bod yn gofyn i ddarparwr hyfforddiant achrededig neu eich cwmni cyfarpar rheoli llygredd a allant ddarparu hyfforddiant ar gyfer eich busnes. Dylai’r hyfforddiant gynnwys pam mae’n bwysig ymateb i achos o golli olew, pa gamau gweithredu y gall eich staff eu cymryd a phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar rheoli olew a gollwyd.

Mae hyfforddiant glanhau ar ôl achos o golli olew ar gael i fusnesau drwy Gymdeithas UK Spill neu Ymatebwr Cyntaf Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain.

Gall sicrhau bod eich staff wedi’u hyfforddi ac yn gymwys gyfrannu at Achrediad eich System Reoli Amgylcheddol.

Paratoi eich busnes

Lluniwch gynllun ymateb i ddigwyddiad llygredd fel eich bod chi a’ch cyflogeion yn gwybod beth i’w wneud os bydd digwyddiad. Dylech gynnwys:

  • manylion cyswllt, yn ystod oriau busnes a’r tu allan iddynt
  • cynllun o’ch safle, gyda lleoliad y draeniau a’r pecynnau colli olew
  • rhestr o’r cynhyrchion, beth sy’n cael ei storio ar eich safle a ble

Profwch eich cynllun, mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am sut i ymateb yn hysbys iddynt a’u bod yn gwybod â phwy i gysylltu, ac mae’n helpu i nodi a oes angen i chi ddiweddaru eich cynllun.