Systemau Rheoli Amgylcheddol i fusnesau

Gofalu am Olew ac arfer da amgylcheddol

Mae gofalu am eich olew yn ddiogel, drwy ei gyflenwi, ei ddefnyddio a’i waredu, yn lleihau eich risg o achosi llygredd ac yn arbed arian. Fel busnes bydd yn cyfrannu at eich System Reoli Amgylcheddol (EMS).

Beth yw EMS?

Mae EMS yn fframwaith strwythuredig ar gyfer rheoli effeithiau sylweddol sefydliad ar yr amgylchedd a gwella ei berfformiad. Mae llawer o gynlluniau EMS cydnabyddedig ac achrededig, Cynllun Eco-reoli ac Archwilio EMAS, ISO14001 a BS8555 yw rhai o’r cynlluniau mwyaf cyffredin.

Mae EMS yn adnodd ymarferol i ymgysylltu â chyflogeion, cwsmeriaid a chysylltiadau busnes ehangach i wella’n barhaus y modd y mae sefydliad yn gweithredu, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a rheoli ei heffaith ar yr amgylchedd.

Sut y gall EMS helpu eich busnes

Gall pob busnes elwa ar ddull systematig o sicrhau bod eu hadnoddau, gan gynnwys olew, yn cael eu rheoli’n dda. Dros amser, gallwch sicrhau arbedion ariannol a bydd arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn datblygu, gan wella perfformiad ac enw da eich busnes. Gall hefyd eich helpu i nodi a manteisio ar gyfleoedd amgylcheddol, gan ddatblygu eich sefydliad y tu hwnt i’r gydymffurfiaeth sy’n ofynnol.

Ble i ddechrau

Os ydych yn ystyried datblygu EMS ar gyfer eich sefydliad neu gwmni mae llawer o wefannau sy’n darparu help ar ble i ddechrau a chanllawiau ar y broses.

Dwy wefan o’r fath yw:

Mae atal llygredd yn rhan annatod o EMS effeithiol a dylai gael ei adlewyrchu ym mholisi, amcanion ac ymrwymiadau eich sefydliad mewn dogfennau EMS eraill.