Dod yn gyfarwydd â’ch tanc olew

Gwybod pa danc sydd gennych

Mae’n bwysig gwybod pa fath o danc a phibellau sydd gennych a sut i’w defnyddio. Dylai gweithgynhyrchydd eich tanc, gosodwr, peiriannydd cynnal a chadw neu gwmni cyflenwi olew fod yn gallu eich helpu.

O beth y gwnaed eich tanc?

Mae tanciau o bob lliw a llun ar gael ac fe’u gweithgynhyrchir fel arfer o ddur neu blastig ac mae cyfarpar a phibellau eraill yn rhan ohonynt.

Gwneir tanciau plastig o bolyethylen wedi’i fowldio, ac maent yn wyrdd fel arfer ac o bob siâp. Mae tanciau dur fel arfer yn petryalog ac wedi’u diogelu gan haen sy’n gwrthsefyll olew. Bydd angen i chi gynnal a chadw’r haen er mwyn ymestyn oes tanc dur.

Ar gyfer pob tanc mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau cynnal a chadw gweithgynhyrchydd eich tanc neu ofyn i’ch peiriannydd archwilio am gyngor.

Pa fath o danc sydd gennych?

Mae mathau gwahanol o danciau ar gael yn dibynnu ar y gweithgynhyrchydd, ar gyfer beth y defnyddir y tanc a lle y caiff ei osod. Mae’n bwysig deall lefel y diogelwch o ran colli olew a ddarperir gan eich tanc.

Croen unigol

Gelwir tanc storio olew sydd ag un haen yn unig o ddur neu blastig i gynnwys y tanwydd yn danc croen unigol. Y math hwn o danc sy’n rhoi’r lefel lleiaf o ddiogelwch oherwydd bydd olew yn dianc os caiff yr haenen unigol o blastig neu ddur ei difrodi. Er mwyn cynyddu lefel y diogelwch os caiff olew ei golli, rydym yn argymell rhoi tanc croen unigol mewn bwnd cerrig neu goncrit adeiledig, a gelwir yr ail haenen ddiogelu hon yn system cynnwys eilaidd. Mae’n bwysig nodi nad yw gwaith cerrig neu goncrit sylfaenol yn anhydraidd i olew; bydd angen selio eich cynhwysdanc eilaidd i greu bwnd effeithiol. Mae deddfwriaeth yn galw am leoli rhai tanciau croen unigol mewn bwnd neu system cynnwys eilaidd.

Mewn bwnd integrol

Gelwir tanc storio olew sy’n dod mewn bwnd mwy o faint atodedig yn danc integrol. Cynllunnir y bwnd integrol i ddal 110% o gynnwys y tanc mewnol a holl ffitiadau’r tanc olew, gan gynnwys unrhyw fentiau neu bibellau. Cyflenwir tanciau bwnd integrol fel uned gyfansawdd ac maent yn darparu lefel well o ddiogelwch rhag olew a gaiff ei golli.

 

Gorsaf ail-lenwi

Gelwir system tanc plastig neu ddur mewn bwnd integrol ar gyfer gwaredu tanwydd i gerbydau neu beiriannau yn orsaf ail-lenwi. Cynllunnir yr unedau hyn yn arbennig i ddal unrhyw danwydd a gaiff ei golli wrth i chi ail-lenwi cerbydau neu gyfarpar, diogelu rhag lladrad a chaniatáu i unrhyw danwydd a gaiff ei gyflenwi gael ei fesur.

Croen dwbl

Yr enw arall arno yw tanc wal ddwbl. Mae ganddo danc mewnol gyda thanc allanol mwy o faint o’i amgylch i’w wneud hyd yn oed yn gryfach. Nid yw’r tanc na’r croen allanol yn ddigon mawr i gynnwys 110% o gyfaint olew y tanc mewnol felly ni fyddant yn rhoi’r lefel o ddiogelwch rhag colli olew a ddarperir gan danc mewn bwnd integrol. Gan nad yw’r tanc wedi’i leoli mewn bwnd nid yw’n rhoi’r un diogelwch rhag olew a gollir drwy orlenwi’r tanc neu ddifrod i’r tanc neu unrhyw bibellau.

Fel gyda thanciau croen unigol rydym yn argymell gosod tanciau croen dwbl uwchben y ddaear mewn bwnd neu system cynnwys eilaidd, ac mewn rhai achosion gall hyn fod yn ofyniad cyfreithiol.

Tanciau tanddaearol

Weithiau yr unig rhan weledol o danc tanddaearol y gallwch ei gweld yw’r agorfa sy’n darparu mynediad i’r man llenwi, y fent a’r mesurydd cynnwys.

Mae’n anoddach gofalu am danciau tanddaearol am na allwch edrych arnynt i weld a oes unrhyw ddifrod, neu i weld a oes olew’n gollwng neu wedi cael ei golli. Mae’n bwysig iawn monitro pa mor gyflym rydych yn defnyddio olew o danc tanddaearol. Os bydd lefel eich olew yn gostwng yn sydyn, dylech ofyn i unigolyn cymwys cymwysedig sydd wedi ei gofrestru i wneud gwaith gwasanaethu olew gadarnhau nad yw eich tanc na’ch pibellau yn gollwng.

 

Y ffitiadau ar eich tanc

Man llenwi

Cyplydd sgriw ar gyfer pibellau y mae’r gyrrwr sy’n cyflenwi’r olew yn cysylltu ag ef i lenwi’r tanc, sydd fel arfer yn 2 fodfedd neu/n 50mm ar ei draws. Gall y man llenwi fod ar y tanc neu gall pibell gael ei ymestyn i fan llenwi o bell. Dylech sicrhau bod gennych hambwrdd diferion ar gyfer pob pibell lenwi o bell i ddal unrhyw ddiferion na allwch eu draenio yn ôl i’ch tanc. Gwiriwch yr hambwrdd diferion wrth gynnal y gwiriadau rheolaidd o’ch tanc.

Fent

Ffordd o ryddhau anwedd ac aer o’r tanc i mewn i’r atmosffer pan fydd y tanc yn cael ei lenwi ac aer i mewn i’r tanc pan fydd tanwydd yn cael ei wagio o’r tanc. Mae’n bwysig cadw fentiau’n glir er mwyn sicrhau y gall aer lifo i mewn ac allan o’r tanc yn hawdd. Dylai diamedr y bibell fent fod mor fawr â’r bibell lenwi o leiaf (fel arfer 2 fodfedd neu 50mm ar ei thraws).

Mesurydd cynnwys

Dyfais sy’n nodi faint o olew sydd yn y tanc. Gall mesuryddion fod yn rhai a reolir â llaw, neu’n rhai gweledol neu ddi-wifr. Gellir darllen y mesurydd yn y tanc, wrth ymyl y tanc neu hyd yn oed mewn lleoliad o bell (er enghraifft yn y gegin). Rhaid dethol pob mesurydd cynnwys yn gywir ar gyfer y tanc sy’n cael ei fonitro fel eu bod yn rhoi darlleniadau cywir.

Dylech gymryd gofal arbennig gyda ‘thiwbiau gweld’ traddodiadol, ac atodir y rhain yn fertigol ar ran allanol y tanc. Maent yn dangos lefel yr olew yn y tanc pan gaiff falf ei agor. Peidiwch â gadael y falf ar agor. Os oes gan y tiwb gweld broblem, gall hyn ddraenio’r olew i gyd allan o’r tanc. Mae angen atodi’r tiwbiau gweld yn gadarn fel nad ydynt yn hongian ac i atal olew rhag gollwng.

Falf ynysu

Fe’i gelwir fel arall yn falf gwasanaethu sy’n cau’r cyflenwad olew o’r tanc. I’w gweld fel arfer wrth arllwysfa’r tanc.

Dyfais atal neu rybuddio bod y tanc yn gorlenwi

Dyfais i osgoi colli olew oherwydd gorlenwi; gall seinio larwm a/neu roi rhybudd gweledol, neu atal yr olew rhag mynd i mewn i’r tanc yn awtomatig.

Bwnd (fe’i gelwir hefyd yn gynhwysdanc eilaidd)

Ardal o amgylch y tanc sydd wedi’i chynllunio i gynnwys unrhyw danwydd a gollir ac i atal llygredd a fydd yn dal o leiaf 110% o gynnwys y tanc. Gellir ei gweithgynhyrchu fel rhan o danc mewn bwnd integrol neu gellir ei hadeiladu ar wahân i’r tanc. Gellir adeiladu bwnd ar wahân o goncrit neu gerrig a sicrhau ei fod yn anhydraidd i olew. Os bydd gofynion mynediad ac iechyd a diogelwch yn caniatáu hynny, gallech roi to uwchben bwnd ar wahân i atal y dŵr glaw rhag cronni. Ni ddylai fod unrhyw fylchau na gwagleoedd yn waliau’r bwnd sy’n caniatáu i olew neu ddŵr ddianc i’r amgylchedd.

Efallai y bydd angen i’ch tanc gael cynhwysdanc eilaidd yn unol â’r gyfraith yn dibynnu ar ei leoliad ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio. Ond, er mwyn atal difrod i’ch eiddo ac i ddiogelu’r amgylchedd, dylech ystyried cael cynhwysdanc eilaidd, hyd yn oed os nad yw’n ofyniad cyfreithiol.

Pibellau cyflenwi

Gall pibellau cyflenwi fod: yn rhai copr wedi’u gorchuddio â phlastig, ddur wedi i’w diogelu rhag rhydu neu bibell blastig gymeradwy (at ddefnydd tanddaearol). Dylai pibellau a osodir uwchben y ddaear gael eu hategu gan glipiau pwrpasol a atodir i strwythurau parhaol. Dylai pibellau tanddaearol gael eu diogelu rhag difrod ffisegol neu ddamweiniol a dylid nodi eu llwybrau gyda thâp rhybudd a gaiff ei gladdu 150mmm o dan wyneb y ddaear.

Os defnyddir y pibellau ar gyfer offer annomestig, dylai gynnwys cyfleuster canfod gollyngiadau. Dylai unrhyw uniadau mecanyddol tanddaearol fod yn hygyrch i’w harchwilio.