Gollyngiad mewn Gorsaf Betrol yn costio £8 miliwn yn ogystal â chostau cyfreithiol a chamau ataliol
Beth ddigwyddodd:
Ym mis Gorffennaf 2014 gollyngodd 23,500 litr o betrol di-blwm o danc mewn gorsaf betrol Tesco yn Haslingden, Sir Gaerhirfryn dros gyfnod o 29 awr. Cafodd y gollyngiad ei ganfod 23 awr ar ôl iddo ddechrau, ond rhoddwyd cyngor anghywir yn fewnol a olygodd fod y gollyngiad wedi parhau am 7 awr arall. Ni chafodd y gollyngiad ei adrodd wrth Asiantaeth yr Amgylchedd.
Aeth petrol i’r system garthffosiaeth ac ‘roedd yr arogleuon yn effeithio ar drigolion hyd at gilometr i ffwrdd, gan achosi i bobl gael cyngor meddygol o achos cur pen a salwch. Arhosodd yr arogleuon yn y cartrefi am ddyddiau. Cafodd y digwyddiad effaith fawr ar y gymuned leol a’r amgylchedd a gorfu i drigolion adael eu cartrefi o achos yr arogleuon petrol oedd yn dod o’r rhwydwaith garthffosiaeth.
Gweithiodd Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Gaerhirfryn, United Utilities, Gwasanaeth Tân ac Achub Sir Gaerhirfryn ynghyd i ymateb. Gwnaethant ddarganfod bod y digwyddiad wedi cael ei achosi gan fethiant Tesco i fynd i’r afael â mater oedd yn hysbys iddyn nhw yn ymwneud â rhan o’r system dosbarthu tanwydd a system larwm annigonol. Gwaethygwyd y sefyllfa gan eu gweithdrefnau brys annigonol.
Beth oedd yr effaith:
Aeth peth o’r petrol i Langwood Brook ac afon Irwell, gan achosi effaith amgylcheddol sylweddol, lladd pysgod a bywyd dyfrol arall.
Gwelwyd olew mewn samplau a gymrwyd o afon Irwell hyd at dair milltir i lawr yr afon. Roedd dros 40 o bysgod marw, gan gynnwys brithyll brown, o fewn 1.5 milltir i ble aeth y llygredd i’r dŵr, a physgotwyr yn adrodd am bysgod marw cyn belled â chwe milltir i lawr yr afon.
Beth oedd y canlyniad:
Daliwyd oddeutu 7,000 litr o betrol ar y safle – roedd y gweddill wedi dianc i garthffosydd ac i’r amgylchedd.
Cafodd Tesco eu herlyn o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010, Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Amgylcheddau Ffrwydrol 2002 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Cawsant ddirwy o £8 miliwn pan aeth yr achos i’r llys ym mis Mehefin 2017. Cawsant hefyd orchymyn i dalu costau o dros £57,000.
Beth a ddysgon nhw:
Mae’r math o system a ddefnyddiwyd yn yr orsaf betrol a achosodd y gollyngiad wedi cael ei newid ym mhob un o 504 gorsaf betrol Tesco yn y DU.
Mae’r cwmni bellach wedi gosod system fonitro amser real ym mob safle. Mae hyn yn golygu y gellir canfod gollyngiad yn syth a’i adrodd yn syth bin.
Maen nhw hefyd wedi diweddaru gweithdrefnau brys eu safleoedd i gysylltu â’u rheoleiddiwr amgylcheddol os oes gollyngiad arwyddocaol.