Gwiriadau Tanc Gaeaf
17 / 01 / 15Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd angen cyflenwad o olew i’ch tanc ar frys. Ond mae angen i chi sicrhau nad yw eich cyflenwad yn costio’n ddrud i chi a’r amgylchedd.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio eich tanc olew cyn i chi archebu. Bydd hyn yn eich helpu i ddiogelu’r amgylchedd ac yn lleihau’r risg o golledion ariannol a chostau glanhau mawr.
Ewch allan a cherddwch o amgylch eich tanc, gan edrych am broblemau posibl; bydd ein canllaw ar wiriadau rheolaidd yn helpu.
Ceisiwch fod gartref neu ar y safle pan gaiff yr olew ei gyflenwi, fel y gallwch wneud yn siŵr nad yw’r tanc yn cael ei orlenwi a byddwch wrth law i helpu os bydd problem.
Dywedodd Alisan Hyman, Swyddog Asiantaeth yr Amgylchedd:
‘Gall olew gwresogi achosi problemau difrifol os aiff i mewn i’r amgylchedd. Gall lygru afonydd, niweidio bywyd gwyllt a halogi’r tir a dŵr yfed. Ond nid cost colli’r olew yw’r unig beth a all fod yn gostus. Gall y costau glanhau fod yn fawr ac nid yw polisïau yswiriant cartref bob amser yn eu cwmpasu.
Dyna pam mae’n hollbwysig sicrhau mai dim ond mewn tanciau sydd mewn cyflwr da y dylai olew gael ei storio. Dylai’r tanc a’r pibellau gael eu harchwilio’n rheolaidd ac ni ddylai pobl byth brynu mwy o olew nag y gallant ei storio’n ofalus.’
Os bydd eich tanc yn dechrau gollwng ar ôl iddo gael ei lenwi, bydd angen i chi gymryd camau gweithredu.
- Ceisiwch atal yr olew rhag llifo, er enghraifft diffoddwch y falfiau.
- Ceisiwch atal yr olew rhag ymdreiddio i’r tir neu fynd lawr draeniau.
- Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant a’r cwmni cyflenwi olew er mwyn trefnu i’r olew gael ei lanhau.
- Rhowch wybod am yr olew a gollwyd drwy ffonio 0800 80 70 60, mae llinellau ar agor 24 y dydd, mae’r galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.
- Mae gan ein ‘Canllaw ar Ddelio ag olew sydd wedi cael ei golli ’ fwy o awgrymiadau.