Diogelu eich olew rhag lladrad
Mae dwyn olew gwresogi a diesel wedi bod yn achos pryder ers blynyddoedd lawer. Mae eich olew yn werthfawr ac mae angen i chi ofalu amdano.
Mae cynnydd ym mhris tanwydd yn aml yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn olew a thargedir tanciau tanwydd ar ffermydd, depos cludiant ac eiddo domestig.
Yn fwy diweddar, mae dwyn olew gwastraff peryglus o garejys a gweithdai wedi mynd yn broblem. Os ydych yn cynhyrchu neu’n cadw’r olew gwastraff, mae gennych Ddyletswydd Gofal i sicrhau y caiff eich olew ei storio’n ofalus. Rydych yn atebol am ei dynged nes y caiff ei drosglwyddo/anfon yn briodol i weithrediad rheoli gwastraff cyfreithiol.
Lleoliad y tanc
Gall lleoliad tanc gael effaith sylweddol ar b’un a yw’n debygol o gael ei dargedu gan ladron ai peidio. Os yw eich tanc yn agos at lwybr neu ffordd, ac allan o’r golwg, yna mae’n darged haws o lawer na thanciau y gellir eu gweld o’ch ffenestri.
Pan fyddwch yn dewis ble i roi eich tanc olew rhaid i chi gyfeirio Rheoliadau Adeiladu. Maent yn cynnwys y gofynion sylfaenol y mae’n rhaid i chi eu bodloni i ddiogelu’r tanc rhag effeithiau tân neu ffynhonnell o wres a all ddechrau o fan cyfagos.
Os byddwch yn defnyddio adeiladau, waliau neu ffensys i guddio eich tanc, cofiwch, er y gallant rwystro lladron rhag cael gafael ar eich olew, gallant hefyd eich atal rhag gweld eich tanc. Gwnewch yn siŵr nad yw eich tanc mor gaeedig fel na all rhywun gyflenwi’r olew yn ddiogel.
Dyfeisiau cloi
Ystyriwch brynu cap llenwi y gellir ei gloi neu gloeon clap er mwyn atal rhywun rhag cael mynediad anawdurdodedig i gynnwys eich tanc. Yn anffodus, ni fydd y dyfeisiau hyn yn atal lladron rhag torri drwy wal y tanc neu ymyrryd â’r bibell sy’n cyflenwi olew.
Goleuadau diogelwch
Gall gosod goleuadau diogelwch fod yn gost-effeithiol iawn a gwneud tanc yn anodd iawn i’w dargedu. Mae goleuadau ynni isel rhwng y cyfnos a’r wawr gyda synhwyrydd symud wedi’i osod yn agos at y tanc yn aml yn darparu digon o olau i oleuo unrhyw weithgaredd amheus. Fodd bynnag, dim ond os yw’r tanc mewn golwg y mae hyn yn wirioneddol effeithiol.
Plannu amddiffynnol
Gall gosod llystyfiant trwchus neu bigog o amgylch tanc guddio tanc olew yn naturiol. Mae lladron yn aml yn amharod i fentro torri eu hunain neu rwygo eu dillad a all ddatgelu mai nhw yw’r troseddwr.
Cofiwch, peidiwch â gadael i’r planhigion dyfu’n rhy wyllt. Gofalwch am y planhigion o amgylch eich tanc fel bod o leiaf 600mm yn glir o amgylch y tanc fel y gellir ei lenwi a’i archwilio.
Larymau lefel olew
Ystyriwch osod dyfais monitro lefel yr olew electronig. Dewiswch un sy’n seinio os bydd lefel yr olew yn gostwng yn sydyn. Gall y larwm seinio wrth y tanc neu o bell i’ch rhybuddio bod olew yn cael ei golli a allai awgrymu bod rhywun yn ei ddwyn neu bod rhywbeth mawr o’i le ar y tanc.
Teledu cylch cyfyng (CCTV)
Gall CCTV fod yn gam diogelwch da i’w gymryd os byddwch yn ei ddefnyddio ynghyd â nodweddion diogelwch eraill, ac nid fel yr unig beth i ddiogelu eich tanc.
Er mwyn i CCTV fod yn effeithiol, dylech ystyried:
- beth rydych yn gobeithio ei gyflawni drwy ddefnyddio CCTV
- faint rydych yn fodlon ei wario
- a oes digon o olau i’r camera gymryd lluniau da
- beth rydych yn mynd i’w ddefnyddio i gofnodi’r lluniau a dynnwyd
- sut y byddwch yn rhoi unrhyw dystiolaeth a allai fod gennych i’r heddlu
Ble y gallaf gael rhagor o gyngor?
I gael cyngor cyffredinol ar osod tanciau storio olew ar gyfer gwresogi a chynnal a chadw tanciau olew, cysylltwch ag unigolyn cymwys. Mae gweithredwyr Cynllun Unigolion Cymwys (CUC) yn cynnig cyfleuster chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ffôn. Gellir dod o hyd i weithredwyr CUC ar-lein yn y Gofrestr Unigolion Cymwys.
Os hoffech ragor o wybodaeth am warchod eich tanc tanwydd, cysylltwch â’ch Swyddog Lleihau Trosedd lleol ar 101.