Atgofied i ddeiliaid cartrefi i wirio eu tanciau storio olew

Hoffem atgoffa deiliaid tai sydd â thanciau storio olew eu gwirio er mwyn osgoi gollyngiadau olew. Mae gollyngiadau olew o danciau olew cartref yn ffynonellau fwyaf cyffredin, o lygredd olew a gellir eu hatal, yn y DU. Dangosir gwybodaeth, a gesglir gan reolwyr amgylcheddol y DU ers 2012, fod nifer y gollyngiadau o danciau storio olew domestig yn ail yn unig i golledion olew o gludiant, er enghraifft yn ystod gwrthdrawiadau ar y ffordd.

Gallai olew yn gollwng o’ch tanc cartref cael effaith ddinistriol ar eich cartref a’r amgylchedd ehangach. Mewn rhai achosion, mae pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi am wythnosau neu fisoedd tra ymdrinnir â’r olew, a bu arllwysiad o danc olew domestig yng Nghymru arwain at gau cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae’r risg yn uwch os yw eich tanc mewn ardal wledig lle mae pobl oddi ar y sustem gyhoeddus ac yn cael cyflenwad dŵr eu hunain, gan y gall olew yn gwneud y dŵr yn anaddas i’w defnyddio.

Rydym yn argymell pobl sydd â thanciau storio olew yn eu cartrefi eu gwirio yn fisol am ddifrod neu ollyngiadau, a bod y sustem yn cael eu harchwilio gan berson cymwys bob blwyddyn. Mae pibellau  o dan y ddaear hefyd yn ffynhonnell o ollyngiadau a dylai’r rhain gael eu gwirio’n rheolaidd hefyd. Gall yr arolygiad tanc blynyddol a phrofion o bibellau tanddaearol yn aml yn cael ei wneud pan fydd y boeler yn cael ei gwasanaethu. Rydym wedi diwygio ein cyngor “Dewch i adnabod eich tanc olew ” ar gyfer perchnogion tanciau storio olew.

Mae’r peryg o danc olew ollwng yn cynyddu wrth i unai danc plastig neu un dur fynd yn hŷn. Rydym yn argymell eich bod yn talu sylw arbennig i danciau dros ddeng mlwydd oed. Gall gosodiad gwael hefyd gyfrannu at ollyngiadau – rhaid i’r tanc gael ei gefnogi’n llawn ar seiliau cadarn gyda mynediad hawdd i’w lenwi. Gweler ein cyngor i’ch helpu i ofalu am eich olew.