Cadwch eich olew yn ddiogel y gaeaf yma.

Wrth i’r gaeaf ddod arnom a’r tymheredd ddisgyn, mae’n amser i’r rhai ohonom ni sydd gyda gwresogi olew i sicrhau bod ein tanciau olew yn llawn. Ond mae angen i chi sicrhau nad yw eich cyflenwad yn costio’n ddrud i chi a’r amgylchedd.

Gwnewch yn siŵr nad oes gan eich tanc olew arwyddion o ollyngiadau a bod y gyrrwr dosbarthu yn gallu cael ato yn ddiogel. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’ch tanc olew cyn ichi osod archeb. Bydd hyn yn eich helpu chi i warchod yr amgylchedd a lleihau’r risg o’r  amhariad a chostau gydag unrhyw lanhau.

Ewch allan a cherdded o amgylch eich tanc, edrych am broblemau posibl; bydd ein canllaw ar wiriadau rheolaidd yn helpu.

Ceisiwch fod yn y cartref neu ar y safle ar gyfer y danfoniad, fel hyn gallwch chi sicrhau nad yw eich tanc yn cael ei orlenwi ac fe fyddwch wrth law i helpu os oes problem.

Meddai Rob Thomas o Gyfoeth Naturiol Cymru:

“Os caiff olew gwresogi ei ollwng gall achosi problemau difrifol, yn enwedig mewn pridd a dŵr. Gall lygru afonydd, niweidio bywyd gwyllt a difwyno dŵr daearol a dŵr yfed. Yn ogystal, gall costau’r olew a gollir ac unrhyw waith glanhau gynyddu. Hefyd, gall costau glanhau fod yn sylweddol iawn ac nid ydynt bob amser yn cael eu cwmpasu gan bolisïau yswiriant cartrefi.

Felly mae’n hanfodol bod tanciau storio olew yn cael eu cynhali’n dda ac mewn cyflwr da gyda mynediad diogel. Archwiliwch y tanc a’r pibellau yn rheolaidd a pheidiwch byth â phrynu mwy o olew na ellir ei storio’n ddiogel. ”

Os yw’ch tanc yn dechrau gollwng ar ôl iddo gael ei llenwi, mae angen i chi gymryd camau: Ceisiwch atal y llif olew, er enghraifft wrth troi falfiau i ffwrdd:

  • Ceisiwch rwystro’r olew rhag mynd i’r ddaear neu i lawr draeniau
  • Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant a’ch cwmni darparu olew i drefnu i lanhau’r gollyngiad olew
  • Rhoi gwybod am y gollyngiad ar 0800 80 70 60, mae’r llinellau ar agor 24 awr, ac mae’r galwadau’n rhad ac am ddim o linellau tir ond efallai fydd costau os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol
  • Mae gan ein canllaw ‘Ymdrin â gollyngiadau’ fwy o awgrymiadau

Ymgyrch Gofal Olew (DU)