Yr Ymgyrch Gofalu am Olew yn dathlu 20 mlynedd

Eleni, 2015, mae’r Ymgyrch Gofalu am Olew yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.

I ddathlu hyn, rydym yn cynnal cynhadledd ac arddangosfa ar 4ydd Mehefin yn yr Amgueddfa Beiciau Modur Genedlaethol ger Birmingham.

Ers ei lansio yn 1995 mae’r Ymgyrch Gofalu am Olew wedi helpu i leihau digwyddiadau yn ymwneud â llygredd olew ledled y DU i lai na 3350 yn 2013. Yn 2013/14 defnyddiodd mwy na 37,500 o bobl y wefan Banc Olew i ddod o hyd i’w banc ailgylchu olew agosaf. Defnyddir ein gwybodaeth am arfer da ledled y DU gan fusnesau a deiliaid tai sy’n gyfrifol am gadw olew yn ddiogel.

Mae gan eich busnes y cyfle i gysylltu â’r Ymgyrch Gofalu am Olew yn y digwyddiad unigryw hwn am £250 (+ TAW). Bydd hyn yn rhoi bwrdd i chi yn yr arddangosfa a mynediad i hyd at ddau berson i’r gynhadledd.

Dywedwch wrth eich cwsmeriaid am y digwyddiad fel bod cyfle ganddynt i fynegi diddordeb mewn mynychu’r gynhadledd. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth ar ddechrau 2015.

Mae arddangoswyr sydd wedi cadarnhau y byddant yno yn cynnwys Adler and Allen, Empteezy, Darcy Spillcare Manufacture, Oakdene Hollins ac Oftec.

I gael rhagor o wybodaeth, copi o ffurflen archebu’r arddangosfa neu i fynegi diddordeb mewn mynychu’r gynhadledd, anfonwch e-bost at Liz Hobday, Rheolwr yr Ymgyrch Gofalu am Olew yn liz.hobday@environment-agency.gov.uk