Prynu tŷ sydd â thanc olew

Os ydych yn ystyried prynu tŷ newydd, yn enwedig mewn lleoliad gwledig, efallai mai olew fydd yn ei wresogi. Fel rhan o’r gwiriadau y dylech eu gwneud cyn ichi brynu’r tŷ, mae’n bwysig gweld beth yw cyflwr y tanc olew a’r peipiau. Mae’n syniad da cael unigolyn cymwys lleol i fwrw golwg dros yr offer a llunio adroddiad manwl ar eich cyfer.

Cwestiynau i’w gofyn

Mae gan y canllawiau ‘Dod i adnabod eich tanc olew’ a ‘Gwirio eich tanc yn rheolaidd’ gyngor defnyddiol ynghylch yr hyn y dylech gadw llygad amdano.

Cyn ichi brynu’r tŷ, gwnewch yn siŵr fod yr arolwg a gomisiynwyd gennych yn cynnwys manylion am y canlynol:

  • Beth yw oed y tanc – os yw’r tanc yn hŷn nag 20 mlynedd, rydym yn argymell y dylech gael un newydd.
  • Cyflwr y tanc.
  • Cadarnhad ynghylch ble yn union y mae peipiau tanddaearol i’w cael, fel y gallwch sicrhau na fydd unrhyw waith adeiladu rydych yn ei ystyried yn difrodi’r peipiau.
  • Trefniadau mynediad ar gyfer llenwi’r tanc.
  • Gwnewch yn siŵr fod y tanc yn cydymffurfio â rheoliadau rheoli adeiladu lleol. Hyd yn oed os nad yw hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, mae’n syniad da cael ail wal o amgylch y tanc.

Ystyriaethau ychwanegol

Sut y bydd y tanc yn cael ei lenwi? Os bydd yn rhaid i’r beipen danfon olew fynd trwy eich cartref, gallai nifer o gwmnïau olew wrthod llenwi’r tanc.

Yswiriant tŷ

Wrth drefnu yswiriant ar gyfer eich tŷ, gwnewch yn siŵr fod y polisi’n ymdrin â cholli olew oherwydd arllwysiad, oherwydd tyllau/rhwygiadau ac ati, neu oherwydd lladrad. Ac yn bwysicach na dim, dylai’r polisi ymdrin â’r trefniadau a’r costau sydd ynghlwm wrth lanhau unrhyw olew a ollyngir – sef rhywbeth a all fod yn ddrud iawn.

Pe bai olew yn cael ei ollwng, gallwn roi cyngor ichi.