Tanciau tanwydd – cyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid
Os ydych yn gosod neu’n rhentu eiddo sydd â thanc olew, rhaid ichi wybod pwy sy’n gyfrifol am yr olew a gaiff ei storio ac am unrhyw waith cynnal a chadw.
Dylai’r cytundeb gosod nodi cyfrifoldebau’r landlord a’r tenant. Gallai hyn gynnwys y canlynol.
Ar gyfer y landlord
Fel arfer, y landlord sy’n gyfrifol am y strwythur sy’n storio’r olew, gan sicrhau bod y tanc, y peipiau a’r offer cysylltiedig:
- yn cael eu cadw mewn cyflwr da
- yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i storio olew a rheoliadau rheoli adeiladu, a’u
- bod wedi’u hyswirio ar gyfer glanhau olew a allai gael ei ollwng, ac ar gyfer ailosod tanc olew newydd
Ar gyfer y tenant
Fel arfer, mae’r tenant yn gyfrifol am y canlynol:
- hysbysu’r landlord ynghylch unrhyw olew a ollyngir, neu ynghylch gwaith sydd angen ei wneud i gynnal a chadw’r tanc a’r peipiau/offer cysylltiedig
- yr olew a ddanfonir, gan sicrhau nad oes gormod o olew yn cael ei archebu rhag ofn i’r tanc gael ei orlenwi
- yswirio gwerth yr olew a gynhwysir yn y tanc