Storio olew tanwydd ar gyfer ffermydd a busnesau garddwriaethol
Mae gofalu am olew ar eich fferm neu yn eich busnes garddwriaethol yn golygu mwy na bodloni gofynion y rheoliadau ar storio olew. Er mwyn lleihau’r risg o golli eich olew, achosi llygredd a gorfod talu am lanhau, bydd angen i chi ymdrin â phob agwedd ar y modd y caiff eich olew ei gyflenwi, ei storio, ei ddefnyddio a’i waredu.
Beth yw man storio olew tanwydd?
Gall man storio olew tanwydd fod yn danc unigol, tanciau lluosog, swmpgynwysyddion canolraddol (IBCs), drymiau neu danceri symudol; neu gyfuniad o’r rhain. Gallant fod mewn un ardal neu wedi eu gwasgaru ar draws eich safle.
Mae gwybod pa reoliadau sy’n gymwys yn dibynnu ar y math o olew rydych yn ei storio, at ba ddiben y byddwch yn ei ddefnyddio a faint rydych yn ei storio. Bydd ein gwybodaeth am ofynion cyfreithiol storio olew yn eich helpu i ddod o hyd i’r rheoliadau sy’n gymwys ar gyfer eich man storio olew chi; ar fferm, efallai y bydd angen i chi fodloni hyd at dair set o reoliadau gyda gofynion gwahanol.
Storio eich olew yn ddiogel
Rhaid i chi fodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer unrhyw reoliadau storio olew sy’n gymwys; rydym yn argymell eich bod hefyd yn cadw eich olew:
- allan o olwg y cyhoedd a’r ffordd fawr
- mewn man lle mae’n hawdd cyflenwi ac ail-lenwi olew
- gyda mynediad clir yr holl ffordd o’i amgylch ar gyfer archwilio a chynnal a chadw
- gan ymgorffori mesurau atal lladron
Goruchwylio cyflenwad o olew
Cyn cyflenwad, gwnewch yn siŵr bod y capasiti gennych i dderbyn yr olew rydych yn ei archebu. Gwnewch yn siŵr bod y tanciau wedi’u labelu’n glir gyda chapasiti’r tanwydd a’r math o danwydd.
Dylech aneulu at oruchwylio pob cyflenwad o olew. Gallwch wneud yn siŵr bod yr olew’n cael ei roi lle mae ei angen a bod anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill dan glo. Cadwch y ffordd fynediad i’r man storio olew yn glir a sicrhewch nad oes unrhyw gerbydau, biniau, offer a chyfarpar, na deunyddiau gwastraff arni.
Ac, os oes problem gyda’ch man storio olew neu os caiff olew ei golli wrth ei gyflenwi, byddwch wrth law i helpu a thrafod eich opsiynau.
Ar ôl cyflenwi’r olew, gwnewch yn siŵr bod y mesurydd cynnwys yn dangos faint o olew newydd sydd yn y tanc. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad oeddech yn gallu goruchwylio’r cyflenwad, oherwydd gallai eich tanwydd fod wedi cael ei anfon i rywle arall, gallech fod wedi cael swm gwahanol o olew neu gallai’r olew fod wedi gollwng. Os oes gennych fesurydd gweld allanol, gwnewch yn siŵr nad yw wedi dod yn rhydd a bod ei falf yn y safle cau.
Edrychwch am unrhyw newidiadau o ran ymddangosiad y man storio olew a’i strwythur ategol. Edrychwch i weld a oes unrhyw olew newydd wedi cael ei golli neu wedi gollwng a hysbyswch y cyflenwr tanwydd cyn gynted â phosibl os ydych yn amau bod y cyflenwad wedi colli olew.
Os dewch o hyd i olew sydd wedi cael ei golli ac nad ydych yn siŵr sut i ddelio ag ef, ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau/llygredd cenedlaethol ar 0800 80 70 60 i roi gwybod am y digwyddiad a gofyn am gyngor. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, mae galwadau am ddim o linellau tir ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn defnyddio ffôn symudol.
Gwasanaethu cerbydau a chyfarpar
Os ydych yn gwasanaethu ac yn cynnal eich cerbydau a’ch cyfarpar eich hun, rydym yn argymell:
- eich bod yn gwneud y gwaith gwasanaethu ar arwyneb anhydraidd ac mewn adeilad, os yw hynny’n bosibl
- eich bod yn defnyddio hambyrddau diferion pan fyddwch yn newid yr olew ac i ddal unrhyw olew neu danwydd sy’n cael ei golli
- eich bod yn storio hen olew mewn cynwysyddion addas mewn bwnd
- nad ydych yn pentyrru hen olew; eich bod yn ei waredu yn gyfreithlon cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl
- eich bod yn cadw pecyn colli olew wrth law
Lleihau eich risg o ladrad a fandaliaeth
Mae dwyn olew yn mynd yn broblem fwy cyffredin. Cymerwch gamau i ddiogelu eich busnes:
- storiwch eich olew mewn adeilad dan glo (os yw’n bosibl)
- storiwch eich olew allan o olwg y cyhoedd, y ffordd fawr a hawliau tramwy
- cloewch unrhyw dapiau sefydlog parhaol, falfiau neu bibellau hyblyg pan na fyddwch yn eu defnyddio
- storiwch yr holl rannau sy’n gysylltiedig â thanciau olew a chynwysyddion olew mewn bwnd
- gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant yn cwmpasu lladrad a fandaliaeth
Mae rhagor o syniadau ar gael yn ein gwybodaeth am atal lladrad.
Delio ag olew sydd wedi cael ei golli
A fyddech chi a’ch staff yn gwybod beth i’w wneud pe bai olew yn cael ei golli?
Byddwch yn barod! Mae cynllunio a pharatoi da yn lleihau’r risg y daw achos o golli olew yn ddigwyddiad llygredd. Cewch wybod sut i baratoi ar gyfer achos o golli olew gyda’n gwybodaeth am hyfforddiant ar golli olew.
Lluniwch gynllun ymateb i ddigwyddiad llygredd fel eich bod chi, eich cyflogeion ac eraill sy’n ymweld â’ch safle yn rheolaidd yn gwybod beth i’w wneud os bydd digwyddiad.
Cynnal a chadw
Dylai pob man sy’n storio olew gael ei wirio’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod mewn cyflwr da. Os defnyddir tanciau ail-lenwi dylid eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd er mwyn sicrhau bod hidlyddion, falfiau cau, pibelli hyblyg, a chyfarpar arall mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch cyfanrwydd gosodiad storio olew, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor gan weithiwr olew proffesiynol cymwys.
Gwnewch yn siŵr bod gwaith cynnal a chadw neu atgyweiriadau’n cael eu gwneud yn brydlon gan unigolyn cymwys.
Ble y gallaf gael rhagor o gyngor?
I gael cyngor cyffredinol ar osod tanciau storio olew tanwydd a chynnal a chadw tanciau olew, cysylltwch ag unigolyn cymwys. Mae gweithredwyr Cynllun Unigolion Cymwys (CUC) yn cynnig cyfleuster chwilio am dechnegydd lleol ar-lein neu dros y ffôn. Gellir dod o hyd i weithredwyr CUC ar-lein yn y Gofrestr Unigolion Cymwys.