Ymgyrch olew gwresogi domestig leol

Cynhaliodd Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA, mewn partneriaeth â Portsmouth Water ac OFTEC (Cymdeithas Dechnegol Tanio Olew), ymgyrch i argyhoeddi perchnogion tanciau olew gwresogi domestig i wirio ac ailosod tanciau a oedd yn hen ac â risg uchel o lygru dŵr daear, afonydd a nentydd lleol. Datblygwyd yr ymgyrch mewn ymateb uniongyrchol i ddata digwyddiadau llygredd a oedd yn dangos bod ffynonellau dŵr yfed lleol mewn perygl sylweddol o fethiant tanciau storio a phibellau olew domestig.

Gyda chymhorthdal gan Portsmouth Water, roedd yr ymgyrch yn cynnig archwiliadau o systemau olew gwresogi domestig am ddim i ddeiliaid tai mewn dalgylchoedd â blaenoriaeth. Cynigiwyd grant o 50%, wedi’i gapio ar £2,500 fesul cartref, tuag at danc a ffitiad newydd, os oedd yr archwiliad yn nodi bod angen hyn. O ganlyniad i’r ymgyrch, cafodd 25 o danciau a oedd yn peri risg sylweddol i’r amgylchedd eu hailosod, sy’n golygu bod 25,000 litr o olew yn llai tebygol o lygru’r amgylchedd dŵr lleol.

Cynhyrchodd y tîm ganllaw cam wrth gam i gwmnïau dŵr addasu’r ymgyrch ar gyfer eu hardal a phecyn cymorth i’w gwneud hi’n hawdd i gwmnïau dŵr eraill a rheoleiddwyr amgylchedd lleol gynnal ymgyrch debyg.

Pam y gallai fod angen ymgyrch leol arnoch?

Dylech ystyried ymgyrchu os ydych chi’n gweld niferoedd uchel o achosion o lygredd olew gwresogi domestig sy’n rhoi ffynonellau dŵr yfed mewn perygl a lle mae cartrefi sy’n defnyddio olew ar gyfer gwresogi a choginio. Yn aml, mae’n debygol y bydd yna danciau storio olew domestig sy’n hen ac sydd mewn perygl o lygru dŵr daear, afonydd a nentydd lleol.

Nod yr ymgyrch rydym yn ei disgrifio yw buddsoddi arian nawr i sicrhau diogelwch a sicrwydd cyflenwadau dŵr yfed yn y dyfodol.

Sut mae’n gweithio

Mae’r ymgyrch yn gweithio gyda deiliaid tai mewn ardaloedd targed i ddangos pwysigrwydd cynhesrwydd parhaus a sicrwydd cyflenwad ac i osgoi colledion ariannol mawr posibl pe bai gollyngiad yn digwydd.

Gan weithio gydag unigolion cymwys cofrestredig, y mae perchnogion tai yn ymddiried ynddynt, roedd pobl yn cael cyngor wyneb yn wyneb am eu tanciau ar yr un pryd â’u gwasanaeth boeler blynyddol. Dangoswyd mai’r cyngor wyneb yn wyneb oedd y ffordd fwyaf effeithiol o berswadio perchnogion tai i gael eu tanc wedi’i wirio a, lle bo angen, gael un newydd yn ei le.

Gwneud iddo weithio i chi – canllaw cwmnïau dŵr cam wrth gam ar redeg eich ymgyrch leol

Bydd dilyn y camau hyn yn gwneud eich ymgyrch mor hawdd â phosibl i’w rhedeg.

  1. Anelwch at gael pobl sy’n gallu neilltuo amser i’r gwaith hwn a’r gyllideb gyfalaf. Gellir defnyddio’r gyllideb hon i gymell deiliaid tai i weithredu. Caniatewch tua £100 y cartref ar gyfer archwiliad am ddim, a hyd at £2,500 (wedi’i gapio) ar gyfer grant o 50% tuag at system newydd.
    Rydym yn awgrymu eich bod yn cymryd y cam hwn ochr yn ochr â cham dau fel bod gennych syniad o’r arian y gallai fod ei angen os ydych yn bwriadu cynnig grantiau tuag at systemau olew gwresogi newydd.
  2. P’un a ydych wedi sicrhau cyllideb gyfalaf ai peidio, rhestrwch y codau post yn eich ardal cyflenwi dŵr lle bydd eich ymgyrch yn cael yr effaith fwyaf, sef lle mae gennych y ffynonellau dŵr mwyaf agored i niwed a’r achosion mwyaf o ddefnyddio olew gwresogi domestig. I wneud hyn:

a. Nodwch eich ffynonellau dŵr mwyaf agored i niwed (e.e. rhestr o barthau gwarchod tarddiad dŵr daear 1 a 2, dalgylchoedd dŵr wyneb).

b. Defnyddiwch www.nongasmap.org.uk i nodi ble mae cartrefi yn fwyaf tebygol o fod yn defnyddio olew gwresogi domestig

3. Defnyddiwch eich rhestr o godau post i lawrlwytho manylion cyswllt technegwyr olew gwresogi lleol ar y ‘Cynllun Pobl Gymwys’. Gallwch wneud hyn trwy ymweld ag https://www.competentperson.co.uk/ neu drwy ymweld â chofrestrau sefydliadau unigol, er enghraifft https://www.oftec.org/consumers/find-an-oftec-registered-technician.

4. Trafodwch weithio mewn partneriaeth gyda’ch cyswllt arweiniol yn eich adran rheoleiddiwr amgylcheddol lleol. Bydd yn gallu eich cynghori ar y tîm mwyaf priodol i’ch cefnogi. Mae rheoleiddwyr amgylcheddol yn cadw data am ddigwyddiadau llygredd sydd wedi cael eu hadrodd iddynt ac efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r data hyn i flaenoriaethu eich ymgyrch gofalu am olew i warchod yr amgylchedd.

5. Os ydych wedi sicrhau cyllideb gyfalaf ar gyfer archwiliadau am ddim a gwaith adnewyddu, ewch i gam 6. Os nad oes gennych gyllideb, ewch i gam 16.

Os ydych wedi sicrhau cyllideb gyfalaf:

6. Enwebwch un swyddog cwmni dŵr i feithrin perthynas â thechnegwyr sy’n bobl gymwys, gan ateb eu galwadau, cadw cofnodion, a bod yn gyswllt a enwir ar lythyrau a negeseuon e-bost. Rydym yn amcangyfrif y bydd hyn yn cymryd cyfanswm o 20 diwrnod dros dair blynedd, neu lai os byddwch yn rhedeg yr ymgyrch am gyfnod byrrach.

Gall OFTEC hysbysu technegwyr cofrestredig â chymwysterau addas am gyfleoedd o dan yr ymgyrch gofal tanciau olew domestig trwy ei e-gylchlythyrau rheolaidd. Cysylltwch â marketing@oftec.org i drefnu hyn.

7. Golygwch ac anfonwch y ‘Llythyr Pwtio Cwsmeriaid‘ at eich cwsmeriaid yn y codau post targed. Bydd rhai yn ymateb yn uniongyrchol ond, i eraill, bydd yn atgyfnerthu eiriolaeth technegwyr, gan roi hwb da i’ch trawsnewidiadau.

8. Lawrlwythwch, golygwch ac anfonwch y ‘Llythyr Gwahodd Technegwyr‘ a’ch fersiwn leol o’r ‘Map O Barthau Cymwys‘ at eich rhestr o dechnegwyr olew gwresogi lleol. Ar gyfer data Lloegr, gallwch ddefnyddio Platfform Gwasanaethau Data DEFRA yn https://environment.data.gov.uk/ i lawrlwytho haenau i’w defnyddio mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i gynhyrchu eich mapiau wedi’u teilwra.

Yn yr Alban – Data amgylcheddol | Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)

Yng Nghymru – Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael mynediad i’n data, mapiau ac adroddiadau

9. Pan fydd y technegwyr sy’n bobl gymwys yn ymateb, gofynnwch iddynt gwblhau’r ‘Contract’. Mae hyn yn cynnwys cytundeb i dalu anfonebau am waith o fewn 30 diwrnod. Anfonwch sawl copi o’r ‘daflen ysgogi’.

10. Ac i ffwrdd â chi! Pan fydd yn cynnal archwiliadau arferol, bydd y technegydd yn dweud wrth gwsmeriaid am y cynllun ac yn rhoi’r ‘daflen ysgogi’ iddynt. Bydd y technegydd yn eich ffonio i wirio cymhwyster cwsmeriaid (h.y. os ydynt yn un o’ch safleoedd risg uchel, e.e. mewn SPZ1). Unwaith y caiff hynny ei gadarnhau, bydd y cwsmer yn dewis ei dechnegydd (fel arfer y technegydd gwreiddiol ond gallant ddewis unrhyw dechnegydd ar y cynllun).

11. Bydd y technegydd yn cynnal yr archwiliad yn rhad ac am ddim, gan ddefnyddio ‘Arweiniad Arolygu ar gyfer technegwyr sy’n bobl gymwys‘ neu gyfwerth.

12. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, mae’r technegydd yn anfonebu’r cwsmer a chi (y cwmni dŵr) am y cyfraniadau priodol, ac rydym yn eich cynghori i gwblhau’r taliad o fewn y 30 diwrnod y cytunwyd arno i gynnal ymddiriedaeth a hygrededd.

13. Cysylltwch â thechnegwyr sydd wedi cofrestru gyda’r ymgyrch o leiaf unwaith y mis i’w cadw mewn cyswllt a gwirio cynnydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu ac addasu os oes angen.

14. Adolygwch nifer y ceisiadau archwilio ac amnewid a digwyddiadau llygredd sy’n deillio o olew gwresogi domestig o leiaf unwaith y flwyddyn a’u cymharu â’r cyfnod cyn yr ymgyrch.

15. Rhannwch gynnydd a’r hyn sydd wedi’i ddysgu gyda Grŵp Cenedlaethol Rheoli Dalgylchoedd y Cwmnïau Dŵr.

Os nad ydych wedi sicrhau cyllideb gyfalaf:

16. Ni fyddwch yn cynnig archwiliadau rhad ac am ddim neu grant ar gyfer tanciau newydd, ond gallwch barhau i gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu ar gyfer eich codau post dewisol.

17. Enwebwch un swyddog i reoli’r ymgyrch ac ymholiadau cwsmeriaid, sef y cyswllt a enwir ar lythyrau a negeseuon e-bost. Amcangyfrifwn fod hyn tua chwe diwrnod cyfwerth ag amser llawn dros dair blynedd.

18. Golygwch y ‘Llythyr ysgogi cwsmer‘ i ddileu pob cyfeiriad at archwiliadau cymorthdaledig/grantiau. Gwnewch yr un peth gyda’r ”daflen ysgogi’. Anfonwch y ddau at gwsmeriaid mewn codau post targed. Diben yr ymgyrch bostio hon, heb gymhellion ariannol, yw cymell y cwsmer i ymgyfarwyddo â’i danc a’i gyfrifoldebau cyfreithiol trwy apelio at ei gymhellion gyriadol o gynhesrwydd a chysur parhaus, sicrwydd cyflenwad, ac osgoi’r risg o golledion ariannol mawr os bydd gollyngiad.

19. Lawrlwythwch, golygwch ac anfonwch y ‘Llythyr Gwahodd Technegwyr‘ a’ch fersiwn leol o’r ‘Map o barthau cymwys‘ (cynhyrchwyd un ni gan dîm lleol Asiantaeth yr Amgylchedd) at eich rhestr o dechnegwyr olew gwresogi lleol, gan ofyn iddynt ddosbarthu’r daflen wrth iddynt wneud eu harchwiliadau arferol yn y parthau cymwys hynny.

20. Gofynnwch i’r un technegwyr lleol o leiaf bob chwe mis am unrhyw adborth gan gwsmeriaid ar y daflen. Bydd hyn yn dangos eich ymrwymiad ac yn cynyddu eu hymgysylltiad i’r eithaf.

21. Rhannwch gynnydd a’r hyn sydd wedi’i ddysgu gyda Grŵp Cenedlaethol Rheoli Dalgylchoedd y Cwmnïau Dŵr.

Pecyn cymorth ymgyrch

Mae gan y pecyn cymorth yr holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch. Maent yn gopïau o’r dogfennau gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrch gyda Portsmouth Water ac OFTEC. Maent yn ddogfennau Microsoft Word yn bennaf felly gallwch eu haddasu ar gyfer eich ardal leol. Dylid diwygio’r holl destun coch ar gyfer eich cwmni a’r sefydliad pobl gymwys yr ydych yn gweithio gydag ef yn eich ardal.

Mae’r ymgyrch yn defnyddio tactegau ‘ysgogi’. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ysgogi yn:

Fe wnaethon ni ddefnyddio’r tactegau ysgogi canlynol:

  • y graffigyn nodyn gludiog gyda galwad clir i weithredu
  • y defnydd o anfonwr a derbynnydd a enwir
  • y defnydd o ‘chi’, ‘fi’, ‘rwyf/dwi’
  • ei gwneud yn hawdd: neges allweddol gynnar, dileu gwybodaeth ddiangen, symleiddio gweithdrefnau gyda chynllun cam wrth gam syml
  • datgan buddion cynhenid (personol i’r unigolyn) yn hytrach na buddion anghynhenid i eraill / ‘yr amgylchedd’

Defnyddio astudiaethau achos, yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, sy’n dangos sut i osgoi colled a budd cynhenid.

1 Llythyr Pwtio Cwsmeriaid (defnyddiwch hwn ar gyfer eich ymgyrch bostio at gwsmeriaid pan fyddwch yn cynnig cymhellion ariannol).

2 Taflen ysgogi PDF (dyma’r fersiwn a ddefnyddiodd Portsmouth Water wrth gynnig y cymhellion ariannol llawn – archwiliad am ddim a gostyngiad o 50% ar danciau newydd).

3 Taflen Pwtio Testun Am Golygu (fersiwn testun o’r PDF uchod). Bydd angen i chi ddileu unrhyw gyfeiriad at archwiliadau rhad ac am ddim a gostyngiad o 50% ar danciau cyfnewid os nad ydych yn cynnig cymhellion ariannol.

4 Llythyr Gwahodd Technegwyr(fersiwn cymhellion ariannol). Bydd angen i chi ddileu unrhyw gyfeiriad at archwiliadau rhad ac am ddim a gostyngiad o 50% ar danciau cyfnewid os nad ydych yn cynnig cymhellion ariannol.

5 Fersiwn PDF o’r map o barthau cymwys (darperir fel enghraifft). Mae hyn yn cael ei gynhyrchu orau gan ddefnyddio ArcGIS. Yn Lloegr, mae data amgylcheddol ar gael am ddim ar Blatfform Gwasanaethau Data DEFRA yn – Platfform Gwasanaethau Data DEFRA.

Yn yr Alban – Data amgylcheddol | Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)

Yng Nghymru – Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael mynediad i’n data, mapiau ac adroddiadau

6 Canllawiau arolygu ar gyfer technegwyr cofrestredig sy’n bobo gymwys (i dechnegwyr eu defnyddio a’u hanfon at y cwmni dŵr wrth gwblhau archwiliad rhad ac am ddim).

7 Fersiwn PDF o’r contract a ddefnyddir gan Portsmouth Water ac OFTEC ar gyfer technegwyr sy’n cymryd rhan mewn grant tanc olew o 50% yn Lloegr. Gallwch ddefnyddio hwn fel templed, ond datblygwch eich contract eich hun gyda’ch tîm cyfreithiol, gan nodi y gallai’r gyfraith fod yn wahanol yn y gwledydd datganoledig.

8 Erthygl Cylchgrawn Plwyf (gwnaethom ddefnyddio hon i atgyfnerthu’r negeseuon yn ein cyngor ymgyrch bostio / i dechnegwyr).