Atgoffa ffermwyr i archwilio eu tanciau storio tanwydd ac olew

Hoffem atgoffa ffermwyr sydd â thanciau storio olew i’w harchwilio rhag ofn bod olew yn gollwng. Mae tanwydd ac olew yn hollbwysig i beiriannau ac offer fferm, ac ar gyfer gwresogi, ond maent ymhlith y llygryddion a gaiff eu riportio amlaf i reoleiddwyr amgylcheddol. Gallant beri niwed hirdymor i gyflenwadau dŵr preifat a chyhoeddus, ac i fywyd gwyllt. Mae’r risgiau’n arbennig o uchel mewn ardaloedd gwledig lle y mae gan bobl eu cyflenwad dŵr eu hunain, oherwydd gall olew wneud y dŵr yn anaddas i’w ddefnyddio. Arweiniodd digwyddiad yn ymwneud ag olew tanwydd amaethyddol yng ngorllewin Cymru at gau prif gyflenwad dŵr cyhoeddus dros dro yn 2015.

Ymhellach, gall olew a gollir wrth ei ddanfon, olew a gollir o danciau storio ac olew a gollir pan roddir tanwydd mewn cerbydau, effeithio ar waith y fferm a niweidio anifeiliaid o bosibl. Gall y costau glanhau fod yn uchel ac ni fydd yswiriant yn talu amdanynt bob amser.

Fel ffermwr rydych yn gyfrifol am reoli’r holl olew ar eich fferm mewn modd diogel. Argymhellwn eich bod yn edrych ar eich tanciau storio olew am ddifrod, rhwd neu ollyngiadau bob mis ac yn cael person cymwys i’w harchwilio bob blwyddyn. Dengys cofnodion yn ymwneud â gollyngiadau olew fod pibelli porthi tanddaearol yn ffynhonnell sylweddol, a dylid archwilio’r rhain yn rheolaidd. Mae ein cyngor ynghylch storio olew tanwydd ar gyfer ffermydd a busnesau garddwriaethol yn pwysleisio’r angen i oruchwylio unrhyw olew a ddanfonir ac i wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Mae’r risg y bydd tanc olew yn gollwng yn cynyddu wrth i’r tanc fynd yn hŷn. Mae hyn yn berthnasol i danciau plastig a dur fel ei gilydd. Argymhellwn eich bod yn rhoi sylw arbennig i danciau dros ddeg oed. Gall y ffaith eu bod wedi’u gosod yn wael gyfrannu at ollwng olew hefyd; rhaid i’r tanc fod wedi’i gynnal yn llwyr ar sylfaen gadarn gyda mynediad rhwydd ar gyfer ei lenwi. Gweler ein cyngor i’ch helpu i ofalu am eich olew.

Mae’r rheoliadau ar gyfer storio olew amaethyddol yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig. Caiff ffermwyr Cymru eu hatgoffa bod ganddynt rhwng 12 mis a thair blynedd i sicrhau bod eu cyfleusterau storio olew yn cydymffurfio â’r gyfraith, yn dibynnu ar leoliad eu tanc.

Mae ambell ffermwr yn Lloegr yn dibynnu ar esemptiad yn ymwneud â gofynion y Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol, sy’n golygu bod eu tanciau wedi’u gosod cyn 1991. Mae’r ffaith na cheir system atal eilaidd, ynghyd ag oed y tanciau, yn eu gwneud yn arbennig o beryglus. Mae eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd yn hanfodol ar gyfer tanciau o’r fath, ond gosod offer modern yw’r unig ffordd o leihau’r risg.